Sâl yn hirdymor neu`n anabl
Dysgwch fwy am fudd-daliadau a gwasanaethau penodol
- Os ydych dan 65 oed ac angen help i ofalu am eich hun neu i fynd o un lle i`r llall:
ewch i Lwfans Byw i`r Anabl. - Os ydych yn 65 oed neu`n hŷn ac angen help i ofalu am eich hun:
ewch i Lwfans Gweini. - Os ydych yn 16 oed neu`n hŷn, yn anabl ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy:
ewch i Credyd Treth i Bobl Anabl. - Os ydych chi neu aelod o`ch teulu yn ddifrifol anabl o ganlyniad i frechiad:
ewch i Taliad Niwed trwy Frechiad. - Os ydych yn sâl neu`n anabl o ganlyniad i wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM neu yn sgil rhyfel:
ewch i Pensiwn Anabledd Rhyfel ar wefan Asiantaeth Personél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr. - Os ydych chi neu aelod o`ch teulu yn sâl neu`n anabl o ganlyniad i ymgyrch yn erbyn gelyn neu ymladd yn erbyn y gelyn fel dinesydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd:
ewch i Pensiwn Anabledd Rhyfel ar wefan Asiantaeth Personél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr. - Os ydych yn bensiynwr rhyfel ac angen triniaeth neu ofal meddygol oherwydd eich anabledd rhyfel:
ewch i Triniaeth a gofal meddygol i Bensiynwyr Rhyfel ar wefan Asiantaeth Personél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr. - Os ydych yn bensiynwr rhyfel, mae lwfansau eraill y gallech fod â hawl iddynt:
ewch i Lwfansau eraill a delir gyda`r Pensiwn Anabledd Rhyfel ar wefan Asiantaeth Personél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr. - Ers mis Ebrill 2001, ni fu modd i chi wneud cais newydd am Lwfans Anabledd Difrifol. Os ydych yn ei dderbyn eisoes:
darllenwch y wybodaeth am Lwfans Anabledd Difrifol.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.