Mynd neu fyw dramor
Mae`r dudalen hon yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth sy`n bwysig os ydych:
- yn dod i`r Deyrnas Unedig (DU) o dramor ac yn newydd i`r wlad
- yn dychwelyd ar ôl cyfnod dramor
- yn mynd dramor yn barhaol neu i ymweld
- yn byw dramor ond eisiau gwybodaeth am fudd-daliadau a gwasanaethau y gallech eu derbyn neu rydych yn eu derbyn eisoes
- yn aelod o deulu sy`n byw dramor yn sgil gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EM
Mynd dramor
- Os ydych yn bwriadu mynd dramor am gyfnodau byr neu hir, ac am wybod sut y gallai hyn effeithio ar fudd-daliadau rydych yn eu hawlio:
dewch o hyd i enw`r budd-dal neu`r budd-daliadau yn y rhestr A i Y. - Os ydych am wybod am gytundebau nawdd cymdeithasol â gwahanol wledydd:
ewch i Cytundebau nawdd cymdeithasol rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill. - Cewch wybodaeth a chyngor am iechyd ar wefan yr Adran Iechyd.
- Cewch wybodaeth am drethi`r DU a materion eraill yn ymwneud â Chyllid y Wlad tra byddwch dramor drwy fynd i wefan Cyllid a Thollau EM.
Dod i Brydain Fawr
Os ydych yn dod, neu newydd ddod, i Brydain Fawr, efallai bydd angen i chi wybod am y budd-daliadau y gallwch eu derbyn. Efallai eich bod yn newydd i`r wlad, neu`n dychwelyd ar ôl cyfnod dramor.
Mae`r rheolau`n wahanol ar gyfer rhai budd-daliadau os ydych newydd ddod i Brydain Fawr, hyd yn oed os ydych yn wladolyn y Deyrnas Unedig (DU). Mae`r rheolau ychwanegol hyn yn amrywio, ac nid oes rheolau ychwanegol i rai budd-daliadau a gwasanaethau.
I ddod o hyd i`r wybodaeth hon, ar ôl i chi weld popeth sydd o ddiddordeb i chi ar y dudalen hon:
- Ewch nôl i`r dudalen am fudd-daliadau a gwasanaethau i bobl o oedran gweithio drwy`r cyswllt isod.
- Ar ôl i chi wneud hyn, dewiswch y cyswllt neu`r cysylltiadau ar y dudalen honno sy`n berthnasol i chi.
- Pan ddewch chi i dudalen am fudd-dal neu wasanaeth, os oes rheolau ychwanegol i bobl sydd wedi dod o dramor, bydd cyswllt i fynd â chi at y wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnoch. Mae`r cyswllt ar ddechrau’r adran o’r enw ‘Beth arall ddylwn i wybod?` Os nad oes yna reolau ychwanegol, ni fydd y cyswllt yno.
Ewch nôl i`r dudalen am fudd-daliadau a gwasanaethau ar gyfer Pobl anabl a gofalwyr.
Os ydych yn dychwelyd ar ôl cyfnod dramor ac eisoes yn derbyn budd-dal nawdd cymdeithasol o`r DU, cysylltwch â:
International Pension Centre
Tyneview Park
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1BA
Ffôn: 0191 213 5000
Ffacs: 0191 218 7293
- Cewch wybodaeth am fewnfudo i`r DU ac am weithio yn y wlad hon ar wefan Cyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd y Swyddfa Gartref.
- Cewch wybodaeth am drethi`r DU a materion eraill yn ymwneud â Chyllid y Wlad tra byddwch dramor drwy fynd i wefan Cyllid a Thollau EM.