Gwasanaethau a
budd-daliadau

Tâl Salwch Statudol (SSP)

Diweddarwyd ddiwethaf fis Ebrill 2006

brig y dudalen

Beth ydyw?

Telir SSP i weithwyr sy'n methu gweithio yn sgil salwch. Telir SSP gan eich cyflogwr am hyd at 28 wythnos.

Ni chaiff SSP ei dalu ar gyfer afiechydon neu driniaethau penodol, ond i bob gweithiwr sy'n anabl i weithio ac sy'n bodloni'r amodau talu.

brig y dudalen

Allaf i ei gael?

Mae'n rhaid i chi fod wedi gweithio i'ch cyflogwr o dan gontract gwasanaeth. Hyd yn oed os dyma'ch diwrnod gwaith cyntaf gyda chyflogwr newydd a'ch bod yn mynd yn sâl yn ystod y dydd, gallech fod â hawl i SSP.

I dderbyn SSP mae'n rhaid i chi fod:

Caiff eich enillion ar gyfartaledd eu cyfrifo dros gyfnod o 8 wythnos cyn cychwyn eich salwch. Gall y cyfnod hwn amrywio rhywfaint, yn dibynnu ar a gewch eich talu bob wythnos, bob mis neu yn ôl cyfnodau eraill. Os ydych newydd ddechrau yn eich swydd, gallai'r cyfrifiad fod yn wahanol. Cysylltwch â'ch cyflogwr am ragor o wybodaeth.

Os ateboch yn gadarnhaol i'r rhain i gyd, gwnewch gais am SSP

Os hoffech wybod faint y mae`n rhaid i chi ennill at ddibenion YG, cysylltwch â'ch Canolfan Gwaith, Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol

brig y dudalen

Pryd fydd SSP yn dechrau?

Taliad dyddiol yw SSP ac fe'i telir fel arfer ar gyfer y diwrnodau y byddech yn gweithio fel arfer. Yr enw ar y diwrnodau y byddech yn gweithio fel arfer yw Diwrnodau Cymhwyso (QD)

Ni chaiff SSP ei dalu ar gyfer y tri QD cyntaf mewn unrhyw gyfnod o salwch os nad ydynt yn dod o fewn cyfnod cysylltu. Gweler - Beth arall ddylwn i wybod am wybodaeth am `Gyfnodau Cysylltu”

brig y dudalen

Faint fyddaf yn ei gael?

Os yw eich enillion ar gyfartaledd cyn tynnu, er enghraifft, treth ac Yswiriant Gwladol (YG) yn £87.00 bob wythnos neu fwy:

brig y dudalen

Sut ydw i`n gwneud cais?

Dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn sâl

I dderbyn SSP, dylech ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn sâl cyn gynted â phosibl. Efallai bod gan eich cyflogwr eu rheolau eu hunain am ba bryd a sut i roi gwybod iddynt eich bod yn sâl (gwiriwch hyn gyda`ch cyflogwr).

Fodd bynnag, ni chânt fynnu eich bod rhoi gwybod iddyn nhw:

Efallai na fydd eich cyflogwr yn talu SSP os rhowch wybod iddynt eich bod yn sâl fwy na 7 diwrnod ar ôl i chi fynd yn sâl yn gyntaf.

Tystiolaeth eich bod yn sâl

Bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi am dystiolaeth eich bod yn sâl. Fel arfer, bydd hyn ar ffurf nodyn salwch gan eich meddyg.

Ond ni chaiff eich cyflogwr ofyn i chi gyflwyno nodyn salwch am y 7 diwrnod cyntaf rydych yn sâl. Gallant ofyn i chi lenwi eu hunandystysgrif eu hunain neu'r ffurflen SC2 y gallwch ei chael o`ch meddyg teulu, eich swyddfa Cyllid a Thollau EM agosaf neu o wefan Cyllid a Thollau EM.

brig y dudalen

Bydd eich cyflogwr yn talu SSP i chi yn yr un modd ac ar yr un adeg â'ch cyflog arferol.

brig y dudalen

Beth arall ddylwn i wybod?

Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y gallwch dderbyn SSP gan bob un cyflogwr.

Ni chaiff eich cyflogwr ddirwyn eich contract gwasanaeth i ben er mwyn osgoi talu SSP.

Os ydych i ffwrdd o'r gwaith yn sgil gweithredu gan undeb lafur, ni fyddwch yn derbyn SSP.

Os ydych mewn cystodaeth gyfreithiol, ni fyddwch yn derbyn SSP.

Cysylltu

Os ydych wedi bod yn sâl dros ddau gyfnod neu fwy am o leiaf 4 diwrnod yn olynol ac roedd 8 wythnos neu lai rhyngddynt, cânt eu cyfrif fel un Cyfnod Analluogrwydd i Weithio. Mae hyn yn golygu na fydd diwrnodau aros ar gyfer yr ail gyfnod o salwch.

Os ydych chi wedi bod yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd neu Fudd-dal Anabledd Difrifol cyn pen 8 wythnos i’r dyddiad roeddech chi’n sâl, nid oes gennych hawl i SSP oherwydd y gallwch wneud ail gais am IB neu SDB. Hefyd, bydd gan rai pobl hawl i wneud ail gais am IB neu SDB os byddant yn sâl eto o fewn 52 wythnos i salwch blaenorol, ac ni fyddai ganddynt hawl i SSP yn ystod y cyfnod hwn. Byddwch wedi derbyn llythyr cysylltu gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol. Rhowch hwn i’ch cyflogwr.

Beichiogrwydd

Os ydych yn derbyn SSP yn sgil salwch sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd ar gychwyn neu yn ystod y 4 wythnos cyn genedigaeth ddisgwyliedig eich plentyn, bydd SSP yn dod i ben a bydd unrhyw hawl i Dâl Mamolaeth Statudol (SMP) neu Lwfans Mamolaeth (MA) yn dechrau'n awtomatig.

Os ydych yn gymwys i gael SMP neu MA, ni allwch gael SSP am 26 wythnos neu 39 wythnos os oeddech yn disgwyl cael eich baban ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007 yn dechrau gyda’r dyddiad cymwys i’r taliadau hynny.

Os nad oes gennych hawl i SMP neu MA, ni allwch dderbyn SSP am 18 wythnos, gan gychwyn ar:

Cynlluniau Tâl Salwch Galwedigaethol

Mae gan lawer o gyflogwyr eu cynlluniau tâl salwch eu hunain. Os oes gan eich cyflogwr gynllun tâl salwch, sy'n gyfwerth â, neu'n fwy na SSP, efallai bod rheolau talu gwahanol ganddynt, y mae'n rhaid i chi gadw atynt i gael eich talu.

Gwybodaeth arall:

Os bydd SSP yn dod i ben, gwnewch gais am Fudd-dal Analluogrwydd (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith)

brig y dudalen

Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflogwr yn dweud nad ydw i'n gymwys neu os bydd fy SSP yn dod i ben?

Os na allwch chi dderbyn SSP neu os bydd eich SSP wedi dod i ben, gofynnwch i'ch cyflogwr am y ffurflen SSP1, y dylen nhw ei llenwi a'i rhoi i chi. Bydd angen i chi gysylltu â Chanolfan Gyswllt y Ganolfan Byd Gwaith a fydd yn esbonio’r hyn sydd angen i chi ei wneud gyda’r ffurflen hon a sut i wneud cais am Fudd-dal Analluogrwydd. Mae’r rhif yn eich llyfr ffôn lleol o dan Jobcentre Plus.

Os credwch fod penderfyniad eich cyflogwr i beidio â thalu SSP i chi yn anghywir, neu ni wnaethant dalu pan ddylent fod wedi gwneud, neu na wnaethant dalu digon ac ni allwch ddatrys y broblem gyda’r cyflogwr (dylent roi’r rhesymau i chi yn ysgrifenedig), Cysylltwch â Thîm Anghydfodau Taliadau Cyllid a Thollau EM i benderfynu ar y mater. Mae’r cyfeiriad yn www.hmrc.gov.uk/enq/index.htm

brig y dudalen

Cyflogwyr: Gallwch lawrlwytho ffurflen am Dâl Salwch Statudol - i gyflogwyr esbonio pam na allant dalu SSP

Am fanylion am sut i weinyddu a thalu SSP, ewch i wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk/employers/employee_sick.htm

Gallwch lawrlwytho'r ffurflen SSP1 mewn PDF. Ni allwch ddefnyddio'r ffurflen hon yng Ngogledd Iwerddon. Llenwch y ffurflen hon a'i dychwelyd cyn gynted ag y bo modd, oherwydd bydd eich cais yn dibynnu ar y dyddiad y byddwn yn derbyn ffurflen gais gyflawn.

Mae nodiadau gyda`r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i roi gwybod i chi beth i'w wneud.

Cysylltwch â Desg Gymorth yr e-Wasanaeth os cewch drafferthion technegol wrth:

brig y dudalen

Rwy'n ei dderbyn yn barod. Beth fydd yn digwydd:

Os af i'r ysbyty?

Ni fydd hyn yn effeithio ar SSP waeth pa mor hir fyddwch chi yn yr ysbyty.

Os af i dramor i fyw neu i ymweld?

Os ydych chi'n gweithio dramor efallai y gallwch dderbyn SSP os oes rhaid i'ch cyflogwr dalu cyfraniadau YG ar eich rhan. Os ewch chi dramor i ymweld, mae'n bosibl talu SSP o hyd, ar yr amod y gallwch brofi'ch bod yn sâl o hyd. Os ewch chi dramor, bydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau eraill. Gellir cael rhagor o wybodaeth am wledydd penodol drwy'r wefan hon.

Os ydw i'n rhan o deulu yn y lluoedd arfog sy'n mynd neu'n byw dramor?

Ni chaiff aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog dderbyn SSP, ond efallai y gall aelodau o'u teuluoedd ei dderbyn. Gweler uchod.

brig y dudalen

Rhagor o wybodaeth

Os ydych yn gyflogai, gallwch gael gwybodaeth gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol leol.

Os ydych yn gyflogwr, cysylltwch â'ch swyddfa leol ar gyfer cyfraniadau YG Cyllid a Thollau EM am ragor o wybodaeth, neu ffoniwch y Llinell Gymorth i Gyflogwyr ar 0845 7 143 143.

Gwefan Cyllid a Thollau EM: www.hmrc.gov.uk

brig y dudalen

Help arall

Cofiwch mai dim ond arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw'r wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodol o'r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar y dyddiad a ddangosir ar frig y dudalen hon. Fodd bynnag, gallai newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan yn llai cywir gydag amser.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.