Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
Diweddarwyd ddiwethaf fis Ebrill 2008
- Beth ydyw?
- Allaf i ei gael?
- Am ba gyfnod yw’r taliad?
- Faint fydda i’n cael?
- Sut caiff fy SMP ei gyfrifo?
- Pryd fydd SMP yn dechrau?
- Newidiadau a fydd yn effeithio dechrau eich SMP
- Sut ydw i`n gwneud cais?
- Sut caiff ei dalu?
- Beth arall ddylwn i wybod?
- Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflogwr yn dweud nad ydw i’n gymwys ar gyfer SMP?
- Rwy’n ei dderbyn e’n barod. Beth fydd yn digwydd:
- Os af i nôl i weithio i fy nghyflogwr am ddiwrnod neu am rai wythnosau cyn i fy SMP ddod i ben?
- Os byddaf yn dechrau mewn swydd newydd i gyflogwyr arall?
- Os af i dramor i fyw neu i ymweld?
- Os af i mewn i’r ysbyty?
- Os byddaf yn dechrau gwaith gwirfoddol?
- Os af i i gartref gofal?
- Os caf fy anfon i’r carchar neu os caf fy arestio?
- Beth fydd yn digwydd os byddaf yn sâl ar ddiwedd fy SMP?
- Rhagor o wybodaeth
- Help arall
- Cyflogwyr – gwybodaeth am SMP
Beth ydyw?
Mae SMP yn rhoi ychydig o arian i chi i’ch helpu i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith cyn genedigaeth eich babi ac ar ôl hynny.
Telir SMP gan eich cyflogwr.
Allaf i ei gael?
I dderbyn SMP mae’n rhaid i chi:
- Fod yng nghyflogaeth eich cyflogwr yn y 15fed wythnos cymhwyso cyn genedigaeth ddisgwyliedig eich babi.
- Bod wedi’ch cyflogi gan yr un cyflogwr yn barhaus (nid yw rhai seibiannau yn torri ar draws parhad) am o leiaf 26 wythnos cyn y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’ch babi gael ei eni. Caiff wythnosau rhannol eu cyfrif fel wythnosau llawn,
- Bod yn ennill, cyn treth, cyfartaledd o £87.00 yr wythnos ar gyfer y flwyddyn dreth 2007/8 a £90 yr wythnos yn 2008/9. Gelwir hyn yn Lwfans Enillion Is ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) a dyma’r swm y mae’n rhaid i chi ennill er mwyn bod yn gymwys i gael budd-daliadau. Mae’n rhaid i chi ennill mwy na’r swm hwn cyn i chi ddechrau talu YG.
Os ydych yn gyflogedig gallwch ddarllen mwy am ba mor hir y mae’n rhaid i chi fod wedi gweithio i’ch cyflogwr a sut i gyfrifo’ch enillion ar gyfartaledd yn y daflen NI 17AW – Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth.
Nid oes unrhyw derfynau oedran ar gyfer bod yn gymwys i gael SMP. Os ydych o dan 16 oed ac yn bodloni’r rheolau gallwch fod yn gymwys i gael SMP gan eich cyflogwr.
Am ba gyfnod yw’r taliad?
Telir SMP am gyfnod parhaus am hyd at 39 wythnos.
Faint byddaf yn ei cael?
Telir SMP am:
| Am y 6 wythnos cyntaf | 90% o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd, heb derfyn uchaf |
| Am yr 33 wythnos sy’n weddill | Cyfradd safonol neu gyfradd sy’n gyfartal i 90% o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd. Cewch ba bynnag cyfradd sy’n is. |
Y gyfradd safonol o fis Ebrill 2008 yw £117.18
Sut caiff fy SMP ei gyfrifo?
Y dyddiad pwysig ar gyfer cyfrifo eich SMP yw’r dyddiad y disgwylir i’ch babi gael ei eni ac nid union ddyddiad yr enedigaeth.
Bydd eich cyflogwr yn edrych ar yr enillion gros a delir i chi mewn cyfnod penodol. Fel arfer y cyfnod o 8 wythnos hyd at ac yn cynnwys y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’ch babi gael ei eni (EWC). Efallai bydd y cyfnod y mae eich cyflogwr yn defnyddio yn amrywio, yn dibynnu ar ba mor aml y cewch eich talu – bob wythnos, bob mis neu yn ôl cyfnodau eraill.
O ganlyniad i ddyfarniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop, os bydd eich cyflogwr yn dyfarnu codiad cyflog sy’n dod i rym ar unrhyw adeg o ddechrau’r cyfnod penodol a ddefnyddir i gyfrifo’ch SMP i ddiwedd eich cyfnod mamolaeth, mae’n rhaid i’ch cyflogwr gyfrifo’ch SMP eto a thalu unrhyw wahaniaeth sy’n ddyledus i chi. Am ragor o wybodaeth am y dyfarniad hwn a’i effaith ar eich SMP, darllenwch rai cwestiynau ac atebion am Ddyfarniad LlCE.
Darllenwch y daflen NI 17A W – Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth neu siaradwch â’ch cyflogwr am ragor o fanylion am sut caiff eich SMP ei gyfrifo.
Pryd fydd SMP yn dechrau?
Y dyddiad cynharaf y gall SMP ddechrau yw’r 11eg wythnos cyn genedigaeth ddisgwyliedig eich babi a’r dyddiad olaf yw’r diwrnod ar ôl yr enedigaeth.
Os byddwch yn parhau i weithio ar ôl yr 11eg wythnos cyn yr wythnos y byddwch yn disgwyl eich babi, gallech ddewis pryd yr hoffech i’ch SMP ddechrau. Bydd SMP yn dechrau ar unrhyw ddiwrnod a ddewisiwch unwaith y byddwch wedi rhoi’r gorau i waith er mwyn cael eich babi. Golyga hyn y dylai eich SMP ddechrau ar ddiwrnod cyntaf eich absenoldeb mamolaeth.
Newidiadau a fydd yn effeithio dechrau eich SMP
Bydd dechraru eich SMP yn newid:
- os caiff eich babi ei eni cyn dechrau’r 11eg wythnos neu cyn y dyddiad y gwnaethoch ddewis dechrau’ch cyfnod tâl SMP. Os bydd hyn yn digwydd bydd SMP yn dechrau o’r diwrnod ar ôl genedigaeth eich babi
- os ydych i ffwrdd o’r gwaith oherwydd eich beichiogrwydd ar ddechrau neu yn ystod y 4 wythnos cyn genedigaeth ddisgwyliedig eich babi, bydd SMP yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod cyflawn cyntaf rydych o’r gwaith yn sâl oherwydd rheswm sy’n seiliedig ar feichiogrwydd yn y cyfnod o 4 wythnos hwnnw.
- ar ôl dechrau’r 15fed wythnos cyn i chi ddisgwyl eich babi ond cyn dechrau’r 11eg wythnos – bydd SMP yn dechrau o ddechrau’r 11eg wythnos cyn yr wythnos y byddwch yn disgwyl eich babi.
- Ar unrhyw adeg ar ôl dechrau’r 11eg wythnos cyn i chi ddisgwyl eich babi a cyn dechrau cyfnod eich taliad mamolaeth, bydd eich SMP yn dechrau o: y diwrnod ar ôl i chi adael cyflogaeth.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr pryd rydych am gael eich tal mamolaeth ac absenoldeb mamolaeth i ddechrau. Dylech wneud hyn erbyn y 15fed wythnos cyn y disgwylir i’ch babi gael ei eni.
Gallwch newid eich meddwl am y dyddiad yr hoffech i’ch SMP ddechrau, ond mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am y dyddiad newydd o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw beth bynnag.
Mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth i’ch cyflogwr o’r adeg y disgwylir i’ch babi gael ei eni hefyd. Fel arfer, bydd hyn ar y dystysgrif famolaeth MATB1W. Y diwrnod cynharaf y gall eich meddyg neu fydwraig roi’r dystysgrif hon i chi yw 20 wythnos cyn wythnos genedigaeth ddisgwyliedig eich babi (oddeutu 21ain wythnos eich beichiogrwydd).
Fel arfer, dylech roi’r dystiolaeth hon i’ch cyflogwr ddim mwy na 3 wythnos ar ôl y dyddiad roedd eich SMP i fod i ddechrau. Ni all eich cyflogwr eich talu SMP heb y tystiolaeth hon.
Am ragor o wybodaeth am roi gwybod i’ch cyflogwr bod eisiau SMP arnoch ac am y dystiolaeth mae’n rhaid i chi ei rhoi iddo/i, darllenwch y daflen NI 17AW – Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth neu siaradwch â’ch cyflogwr.
Sut caiff ei dalu?
Bydd eich cyflogwr yn talu SMP i chi yn yr un modd ac ar yr un pryd â chyflogau arferol. Dylech drafod hwn gyda’ch cyflogwr er mwyn i chi wybod pryd cewch eich talu.
Beth arall ddylwn i wybod?
Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y gallwch dderbyn SMP gan bob un cyflogwr.
Os byddwch yn gadael eich cyflogaeth neu’n cael eich diswyddo unrhyw bryd ar ôl dechrau’r 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’ch babi mae’n rhaid i’ch cyflogwr dalu SMP i chi os byddwch yn gymwys i’w gael.
Os nad ydych yn bwriadu dychwelyd i weithio i’r cyflogwr sy’n talu SMP i chi, gallech gael SMP o hyd. Nid oes rhaid i chi dalu SMP nôl os byddwch yn penderfynu peidio â dychwelyd i’r gwaith.
Nid yw hawl i SMP yn effeithio ar eich hawl i unrhyw daliad mamolaeth arall y mae eich cyflogwr yn ei ddarparu. Ond bydd SMP yn cyfrif tuag at unrhyw daliadau mamolaeth y bydd eich cyflogwr yn eu talu i chi.
Os ydych yn rhan o drefniant aberth cyflog gyda’ch cyflogwr, gweler yr adran Sut y telir SMP yn NI17AW Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth
Os ydych yn gweithio y tu allan i’r Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer cyflogwr yn y DU, gallech gael SWMP os yw eich cyflogwr yn talu cyfraniadau YG i chi, neu os byddai’n talu cyfraniadau pe bai eich enillion yn uwch.
Os oeddech yn gweithio i gyflogwr yn y Du yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a’r DU ac yn gweithio yn y DU yn y 15fed wythnos cyn wythnos y disgwylir i’ch babi gael eni gallech gael SMP os nad yw eich cyflogwr wedi talu cyfraniadau YG i chi.
Os na allwch gael SMP a’ch bod wedi bod mewn cyflogaeth neu’n hunangyflogedig yn ddiweddar, efallai y byddwch yn gallu derbyn Lwfans Mamolaeth gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Absenoldeb Mamolaeth
Os ydych yn gyflogai mae gennych hawl o gael Absenoldeb Mamolaeth Arferol am 26 wythnos, i’w ddilyn gan 26 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Absenoldeb Mamolaeth ar wefan Directgov.
Absenoldeb a Thaliad Tadolaeth
Os yw eich partner yn gweithio i gyflogwr efallai y bydd ganddynt hawl i gael pythefnos o Absenodleb Tadoaleh Statudol a Thaliad, lle bodlonir yr amodau.Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Absenoldeb a Thâl Tadolaeth ar wefan Directgov .
Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflogwr yn dweud nad ydw i’n gymwys ar gyfer SMP?
Bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi pam na all dalu SMP i chi. Mae’n rhaid iddynt roi ffurflen SMP1W i chi, sy’n esbonio’r rheswm. Efallai y byddwch yn gallu derbyn Lwfans Mamolaeth. Bydd angen i chi anfon ffurflen SMP1W i’r Ganolfan Byd Gwaith gyda’ch ffurflen gais am Lwfans Mamolaeth (MA)
Os credwch fod penderfyniad eich cyflogwr i beidio â thalu SMP i chi yn anghywir, dylech siarad â’ch cyflogwr. Os na allwch ddatrys y broblem, cysylltwch â Thîm Anghydfodau Taliadau Statudol Cyllid a Thollau EM ar 0191 2255221.
Rwy’n ei dderbyn e’n barod. Beth fydd yn digwydd:
Os af i nôl i weithio fy nghyflogwr am ddiwrnod neu am rai wythnosau cyn i fy SMP ddod i ben?
Mae hawl gennych i weithio hyd at 10 diwrnod yn ystod eich Cyfnod Tâl Mamolaeth ar gyfer y cyflogwr sy’n talu SMP i chi heb golli eich SMP. Gelwir y dyddiau hyn yn ddiwrnodau Cadw mewn Cysylltiad (KIT). Unwaith y byddwch wedi defnyddio eich 10 diwrnod ac yn gwneud gwaith pellach i’r cyflogwr hwnnw, byddwch yn colli diwrnodau o SMP am bob wythnos yn eich Cyfnod Tâl Mamolaeth y byddwch yn gwneud y gwaith hwnnw.
Golyga hyn os byddwch yn gweithio eich 10fed diwrnod KIT ac yn gwneud diwrnod arall o waith yn ystod yr un wythnos, byddwch yn colli eich SMP am yr wythnos honno, gan y byddwch wedi rhagori ar yr uchafswm y 10 diwrnod yn ystod yr wythnos honno. (Yn y Cyfnod Tâl Mamolaeth, mae wythnos yn golygu unrhyw gyfnod o 7 diwrnod. Felly os yw eich SMP yn dechrau ar ddydd Iau, bydd wythnos yn rhedeg o ddydd Iau i ddydd Mercher)
Os byddaf yn dechrau gweithio mewn swydd newydd i gyflogwr arall?
- Os byddwch chi’n dechrau gweithio i gyflogwr arall cyn genedigaeth eich plentyn, ni fydd hyn yn effeithio ar eich SMP.
- Ar ôl i’r babi gael ei eni, os byddwch yn gweithio i gyflogwr nad oedd yn eich cyflogi yn y 15fed wythnos cyn y disgwyliwyd i’ch babi gael ei eni, bydd yn rhaid i’ch SMP ddod i ben. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r cyflogwr sy’n talu’r SMP i chi.
Os af i dramor i fyw neu i ymweld?
Os byddwch eisoes yn cael SMP ac yn mynd dramor, bydd eich cyflogwr yn dal i dalu SMP i chi.
Os af i i’r ysbyty?
Os ewch i’r ysbyty, ni fydd hyn yn effeithio ar SMP.
Os byddaf yn dechrau gwaith gwirfoddol?
Fel arfer, ni fydd gwaith gwirfoddol yn effeithio ar SMP.
Os af i i gartref gofal?
Os ewch chi i gartref gofal, ni fydd hyn yn effeithio ar SMP.
Os caf fy anfon i’r carchar neu os caf fy arestio?
Bydd SMP yn dod i ben. Ond byddwch yn gallu hawlio Lwfans Mamolaeth.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn sâl ar ddiwedd fy SMP?
Gwnewch gais am Dâl Salwch Statudol (SSP) gan eich cyflogwr. Bydd y rheolau talu arferol yn berthnasol. Os na fydd gennych hawl i gael SSP, bydd angen i chi wneud cais am Fudd-dal Analluogrwydd. Bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen SSP1W i chi er mwyn esbonio pam nad oes gennych hael i gael SSP.
Rhagor o wybodaeth
Am wybodaeth fanylach, darllenwch y daflen NI 17AW – Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth sydd ar gael ar y wefan hon.
Os ydych yn gyflogai gallwch gael gwybodaeth am SWMP o linell cyflogeion Cyllid a Thollau EM, 0845 302 1479.
Help arall
- Budd-dal Treth Cyngor
- Budd-dal Tai
- Budd-dal Analluogrwydd (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith)
- Cymhorthdal Incwm (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith)
- Lwfans Mamolaeth (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith)
- Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Cyflogwyr – gwybodaeth am SMP
Am fanylion am sut i weinyddu a thalu SMP, ewch i wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk/employers/employee_pregnant.htm
Gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa Cyllid a Thollau EM lleol i gael rhagor o wybodaeth. Neu ffoniwch Linell Gymorth cyflogwyr ar: 0845 7 143 143.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen SMP1W (sy’n esbonio pa na all eich cyflogai gael SMP) mewn fformat PDF. Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen hon yng Ngogledd Iwerddon. Dewiswch ffurflen o’r opsiynau isod.
Os hoffech argraffu ffurflen i’w llenwi mewn llawysgrifen (160KB)
Mae nodiadau gyda`r ffurflen i’ch helpu i’w llenwi ac i roi gwybod i chi ble i’w hanfon ar ôl ei llenwi.
Os cewch drafferthion technegol wrth:
- lawrlwytho’r ffurflen
- argraffu copi caled
- Cysylltwch â Desg Gymorth yr e-Wasanaeth.
Cofiwch mai dim ond arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw’r wefan hon, ac nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodol o’r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar y dyddiad a ddangosir ar frig y dudalen. Fodd bynnag, gallai newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan yn llai cywir gydag amser.