Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol
Diweddarwyd Awst 2006 diwethaf
- Beth yw eich rhif Yswiriant Gwladol?
- Pryd a ble dylwn i wneud cais am rif Yswiriant Gwladol?
- Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol
- Beth yw’r cyfweliad ar ei gyfer?
- Pa fath o dystiolaeth a gwybdoaeth y gallaf ddod?
- Beth sy`n digwydd ar ôl y cyfweliad?
- Proses dyrannu rhif Yswiriant Gwladol llwybr cyflym i gyflogwyr
Beth yw rhif Yswiriant Gwladol?
Defnyddir rhif Yswiriant Gwladol(YG) fel rhif personol:
- i gofnodi cyfraniadau YG person a chyfraniadau a gredydwyd
- oherwydd bod ei angen pan fyddwch yn hawlio budd-daliadau nawdd cymdeithasol.
Dylai rhif YG dim ond cael ei roi i un person ac mae`n rhaid iddo gael ei ddefnyddio gan y person hwnnw yn unig. Mae amgylchiadau pan, yn ôl y gyrfaith, y bydd yn rhaid i chi wneud cais am rif YG.
Pryd a ble dylwn i wneud cais am rif Yswiriant Gwladol?
Dylech wneud cais am rif YG os:
- byddwch yn gwneud cais am fudd-dal, neu
- mae eich partner yn hawlio ar eich rhan.
Dylai hwn gael ei wneud trwy eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith. Gallwch ddod o hyd i`ch swyddfa leol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.
Dylech hefyd wneud cais am rif YG os ydych:
- wedi dechrau gwaith neu ar fin dechrau gwaith
- yn hunangflogedig, neu
- rydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol YG a byddwch yn elwa o dalu hwy.
Am y ceisiadau hyn dylech ffonio 0845 600 0643 rhwng 8.00am a 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os ydych yn drwm eich clyw, neu os oes gennych anawsterau ar eich lleferydd, ffoniwch ein ffon testun ar 0845 600 0644.
Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol
Mae angen i ni gynnal proses wirio pan fyddwch yn gwneud cais am rif YG. Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni sicrhau bod angen rhif YG arnoch. Yn ail, rydym yn sicrhau nad oes gennych rif YG eisoes. Os bydd angen rhif YG arnoch ac nad oes gennych un eisoes, byddwn yn ysgrifennu atoch a gofyn i chi ddod am gyfweliad.
Defnyddiwn y cyfweliad hwn i wirio pwy ydych chi a, lle y bo’n briodol, eich hawl i weithio – i sicrhau rydych yn dweud pwy ydych chi, bod gennych hawl i weithio yn y DU (lle y bo’n briodol) ac i ddiogelu eich cyfrifon YG a nawdd cymdeithasol.Beth yw’r cyfweliad ar ei gyfer?
Yn y cyfweliad, byddwn yn gofyn cwestiynau i chi yngl?n â phwy ydych chi a pham eich bod am gael rhif YG. Bydd y wybodaeth hon, ac unrhyw ddogfennau swyddogol byddwch yn dod gyda chi, yn helpu i brofi pwy ydych chi a, lle y bo’n briodol, eich hawl i weithio. Efallai bydd rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen i wneud cais am rif YG.
Pan fyddwn yn rhoi dyddiad y cyfweliad i chi, byddwn yn dweud wrthych pa wybodaeth neu dystiolaeth i ddod gyda chi. Bydd y wybodaeth neu’r dystiolaeth y bydd angen i chi ddod gyda chi yn dibynnu ar pam bod angen y rhif YG arnoch. Gall y rhestr isod rhoi syniad i chi o’r dogfennau perthnasol.
Pa fath o dystiolaeth a gwybodaeth y gallaf ddod gyda mi?
Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o dystiolaeth a gwybodaeth sydd eu hangen arnom. Ni allwn dderbyn llungopïau.
I gael cyngor ynglŷn ag archebu copïau o dystysgrif geni neu briodas, ewch i wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.
Dogfennau cyffredinol:
- Pasport
- Cerdyn Adnabod Cenedlaethol
- Tystysgrif geni
- Tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil.
- Trwydded yrru lawn
- Dogfennau`r Swyddfa Gartref
- 2 basbort neu fwy os ydych o ddwy genedl/aml-genedl
- Dogfennau benthyciad myfyrwyr
- Caerdyn adnabod myfyrwyr
- Llythyr gan eich coleg, gan gynnwys manylion cwrs
- Morgais neu gytundeb rhentu
- Dogfennau preswylio neu ddinasyddiad
- Tystysgrif mabwysiad
Dogfennau cyflogaeth:
- Slipiau cyflog
- Trwydded waith
- Llythyr gan gyflogwr
- Eich cytundeb cyflogaeth
- Manylion unrhyw asiantaethau cyflogi rydych wedi cofrestru â hwy.
- Tystiolaeth eich bod wrthi’n chwilio am waith
- Tystysgrif ymgorffori
- Memorandwm cymdeithasu
- Erthyglau cymdeithasu
- Contract gwasanaethau
Dogfennau os ydych yn hunangyflogedig:
- Anfonebau
- Llythyrau gan eich cyfrifydd
- Llythyrau gan eich cleientiaid
- Ffurflen neu lythyr gan Gyllid a Thollau am eich hunangyflogaeth, er enghraift bil ar gyfer rich cyfraniadau EM Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.
- Ffurflen trosgwlyddo stoc
Os ydych wedi cyrraedd Prydain yn ddiweddar ar ôl byw y tu allan i Ewrop, mae’n rhaid i chi ddod ag unrhyw ddogfennau teithio sydd gennych. Dogfennau yw’r rhain sy’n rhoi gwybodaeth am eich cyfnod teithio rhwng gwledydd. Maent yn cynnwys pethau fel eich pasbort, cerdyn Prawf Adnabod Cenedlaethol, neu ffurflen NASS 35(a gyhoeddir i bobl sy’n gwneud cais am loches yn y DU).
- Ceir rhagor o enghreifftiau o’r math hon o ddogfen yn Sut i brofi pwy ydych chi ar gyfer dibenion budd-dal (ISSPA5JPW). (144KB)
Os oes gennych unrhyw ddogfennau eraill y credwch a allai helpu i brofi pwy ydych chi neu eich hawl i weithio, dewch â hwy gyda chi.
Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau, mae’n rhaid i chi fynd i’r cyfweliad o hyd.Efallai y gallwch brofi pwy ydych chi gyda’r wybodaeth a rowch yn y cyfweliad.
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?
Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi rhif YG i chi yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfweliad. Byddwn yn anfon cerdyn rhif YG atoch yn ddiweddarach. Os yw eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi.
Cofiwch - nid yw rhif Yswiriant Gwladol yn brawf o bwy ydych.
Mae rhagor o wybodaeth manwl ynglŷn â rhifau Yswiriant Gwladol ar wefan Cyllid a Thollau EM
Proses dyrannu rhif Yswiriant Gwladol llwybr cyflym i gyflogwyr
Dylai cyflogwyr sy’n gwneud cais am drwydded waith o dan y Cynllun Busnes a Masnach (Haen 1 neu Haen 2) fod yn ymwybodol o lwybr cyflym newydd i gyflogai sydd angen rhif Yswiriant Gwladol.
Mae’r broses newydd hon yn golygu y gall ffurflen gais am rif Yswiriant Gwladol cael ei chwblhau gan y cyflogwr a’r cyflogai a chael ei hanfon drwy’r post yn lle ymweld â’r Ganolfan Byd Gwaith, Canolfan Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol am gyfweliad.
Mae cynllun tebyg ar gael ar gyfer:
- gweithwyr proffesiynol y GIG sy’n cael ei recriwtio o dramor a
- rhai dinasyddion yr UE sy’n gweithio i gyflogwr yn y DU sy’n defnyddio’r broses trwydded waith ac sy’n cael ei gyflogi mewn categorïau sy’n cydweddu â dalwyr trwydded gwaith yn Sector Busnes a Masnach Haen 1 neu Haen 2.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â cynlluniau llwybr cyflym cysylltwch â:
Ymholiadau Llwybr Cyflym y Rhyngrwyd
CCU Admin Team
5th Floor
Portcullis House
21 India Street
Glasgow
G2 4PH
Ffon: 0845 641 5047 / 5048 / 5049
Ffacs: 0845 641 5037
E-bost: glasgow.ccufastpathadmin@jobcentreplus.gsi.gov.uk
DS: Mae`r manylion cyswllt yma i`w defnyddio gan gyflogwyr yn unig ar gyfer ceisiadau llywbr gyflym.