Cymhorthdal Incwm ar gyfer cartrefi gofal
Diweddarwyd ddiwethaf fis Mawrth 2004
- Beth ydyw?
- Allaf i ei gael?
- Beth arall ddylwn i wybod?
- Sut ydw i'n gwneud cais?
- Rwy'n ei dderbyn yn barod. Beth fydd yn digwydd:
- Os af i i'r ysbyty neu os bydd rhywun rwy'n gwneud cais ar ei g/chyfer yn mynd i'r ysbyty?
- Os af i dramor i fyw neu i ymweld?
- Os ydw i'n rhan o deulu yn y lluoedd arfog sy'n mynd neu'n byw dramor?
- Os bydda i'n dechrau gweithio ond bydd fy salwch neu anabledd yn golygu bod rhaid i mi roi'r gorau iddi eto?
- Os bydda i'n dechrau gwaith gwirfoddol?
- Rhagor o wybodaeth
- Help arall
- Diffiniadau
Am wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol neu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Beth ydyw?
- I bobl sy'n iau na 60 oed ac sydd ar incwm isel.
- Os ydych chi'n byw mewn cartref yn barhaol, fel arfer bydd cynilion o dros £16,000 yn golygu na allwch chi dderbyn Cymhorthdal Incwm (£8,000 os ydych chi'n aros dros dro).
Allaf i ei gael?
Ydych chi:
- yn 16 oed neu'n hŷn ac yn iau na 60?
- ar incwm isel?
Os ateboch YDW i'r ddau, gwnewch gais am Gymhorthdal Incwm.
(I weld a ydych chi ar incwm isel ar gyfer Cymhorthdal Incwm neu os nad ydych yn sicr am effaith eich cynilion, holwch eich swyddfa nawdd cymdeithasol).
Beth arall ddylwn i wybod?
Os ydych chi wedi dod o dramor neu ddychwelyd o dramor yn ddiweddar, mae rhai rheolau ychwanegol.
Efallai y gallwch dderbyn Cymhorthdal Incwm hyd yn oed os ydych chi'n derbyn help gan eich adran nawdd cymdeithasol, ond byddant yn ei gyfrif pan fyddan nhw'n cyfrifo faint mae`n rhaid i chi dalu tuag at y ffioedd.
Aros yn barhaol mewn cartref
- Os ydych chi'n byw mewn cartref yn barhaol ac os nad yw'ch partner yn byw yno gyda chi, fel arfer bydd eich Cymhorthdal Incwm yn cael ei ystyried ar wahân. Efallai bydd rhaid i'ch partner dalu tuag at gost eich arhosiad yn y cartref. Bydd hyn yn dibynnu ar gynilion ac incwm eich partner.
(Mae partner yn golygu person rydych yn briod â hwy neu berson rydych yn byw gyda hwy fel petaech yn briod â hwy). - Bydd cynilion o fwy na £10,000 yn effeithio ar faint o Gymhorthdal Incwm y gallwch ei dderbyn.
- Os yw'ch cynilion yn cynnwys gwerth eich cyn-gartref, weithiau gellir anwybyddu'r swm hwn:
- Bydd eich cyn-gartref yn cael ei anwybyddu os yw'ch partner, perthynas dros 60 oed, neu berthynas sy'n sâl neu'n anabl yn byw yno.
- Os ydych yn trio gwerthu'ch cyn-gartref, caiff hyn ei anwybyddu hefyd am hyd at 6 mis, ac weithiau am hirach. Ni fydd rhaid i chi dalu budd-dal y derbynioch yn ystod y cyfnod hwn yn ôl.
Aros dros dro mewn cartref
- Os ydych yn aros dros dro mewn cartref, fel arfer caiff Cymhorthdal Incwm ei gyfrifo ar eich cyfer chi a`ch partner gyda'ch gilydd.
- Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm gyda'ch gilydd, mae'n rhaid i'ch partner fod yn gweithio, ar gyfartaledd, llai na 24 awr yr wythnos neu ddim yn gweithio o gwbl.
- Bydd incwm a chynilion eich partner yn effeithio ar y Cymhorthdal Incwm y byddwch yn ei dderbyn gyda'ch gilydd.
- Bydd cynilion o fwy na £3,000 yn effeithio ar faint o Gymhorthdal Incwm y gallwch ei dderbyn.
- Caiff gwerth eich cartref ei anwybyddu.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Gwnewch gais ar unwaith. Os byddwch yn oedi gallech golli budd-dal.
Cysylltwch â'ch swyddfa nawdd cymdeithasol neu â'ch Canolfan Byd Gwaith am ffurflen gais. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa leol ar y wefan hon, neu edrychwch am hysbyseb y Ganolfan Byd Gwaith, nawdd cymdeithasol neu'r Ganolfan Gwaith yn adran rhifau busnes y llyfr ffôn.
Efallai bydd y person sy'n eich cynghori yn eich adran nawdd cymdeithasol yn gallu rhoi ffurflen gais am Gymhorthdal Incwm i chi. Hefyd, efallai y byddant yn gallu'ch helpu i'w llenwi.
Mae'n bwysig i ni fod yn sicr ynghylch pwy ydych chi pan fyddwch chi'n gwneud cais. Efallai y bydd angen i ni'ch holi chi am eich cefndir ac edrych ar unrhyw ddogfennau swyddogol sydd gennych i ategu'r wybodaeth y rhowch.
Rwy'n ei dderbyn yn barod. Beth fydd yn digwydd:
Os af i i'r ysbyty neu os bydd rhywun rwy'n gwneud cais ar ei g/chyfer yn mynd i'r ysbyty?
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich swyddfa nawdd cymdeithasol neu'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith cyn gynted ag yr ewch i'r ysbyty neu'n gadael yno. Mae'n rhaid i chi ddweud wrthynt hefyd os bydd rhywun rydych yn derbyn budd-dal ar ei g/chyfer yn mynd i'r ysbyty.
Cyn gynted ag yr ewch i'r ysbyty
Os ewch chi i'r ysbyty o gartref gofal preswyl y cyngor lleol, fel arfer bydd eich Cymhorthdal Incwm yn gostwng i £14.50.
Ar ôl 4 wythnos
Os oes gennych bartner a'ch bod yn derbyn Premiwm Anabledd Difrifol, fel arfer bydd hyn yn gostwng i £41.50 yr wythnos. Os nad oes partner gennych, bydd eich Premiwm Anabledd Difrifol yn dod i ben.
Ar ôl 6 wythnos
Byddwch o hyd yn cael unrhyw help â chostau t? y mae gennych hawl iddynt ac unrhyw arian a delir oherwydd bod gennych blant dibynnol. Mae hyn yn cynnwys y Premiwm Teulu.
Os ydych chi'n sengl neu'n rhiant unigol, bydd Cymhorthdal Incwm a delir i chi yn gostwng i £18.50 yr wythnos.
Os oes gennych bartner a bod un ohonoch chi yn yr ysbyty, bydd eich Cymhorthdal Incwm yn gostwng £14.50 yr wythnos.
Os ydych chi a`ch partner ill dau yn yr ysbyty, bydd Cymhorthdal Incwm a delir i chi a`ch partner yn gostwng i £36.30 yr wythnos.
Ar ôl 12 wythnos
Os ydych chi'n derbyn arian ychwanegol ar gyfer dibynnydd sydd yn yr ysbyty, bydd yr arian ychwanegol yn gostwng i £14.50 yr wythnos.
Os ydych chi'n cael help â chostau t?, byddwn yn edrych arnyn nhw i weld a ddylent barhau. Byddwn yn gwneud hyn bob 12 wythnos os ydych chi'n dal i fod yn yr ysbyty.
Ar ôl 52 wythnos
Os ydych chi'n sengl neu'n rhiant unigol nad ydym bellach yn eich trin fel pe baech yn gyfrifol am eich plant, bydd eich Cymhorthdal Incwm yn gostwng i £13.50 yr wythnos.
Os ydych chi'n sengl neu'n rhiant unigol sydd bellach ddim yn cael eich trin fel pe baech yn gyfrifol am eich plant, bydd eich Cymhorthdal Incwm yn gostwng i £14.50.
Efallai bydd eich Cymhorthdal Incwm yn gostwng mwy os yw'r bobl sy'n gofalu amdanoch o'r farn na allwch chi wneud defnydd llawn o'r arian hwn bob blwyddyn. Bydd unrhyw arian ychwanegol rydych yn derbyn ar gyfer costau t? yn dod i ben.
Os ydych chi neu'ch partner yn yr ysbyty, bydd angen i'r ddau ohonoch chi wneud cais ar wahân am Gymhorthdal Incwm. Bydd cais eich partner yn cael ei gyfrifo ar wahân.
Os af i dramor i fyw neu i ymweld?
Rhowch wybod i ni eich bod yn mynd dramor cyn gynted â phosibl. Fel arfer, gallwch wneud hyn drwy gysylltu â'ch swyddfa nawdd cymdeithasol.
Os ydych yn mynd dramor yn barhaol, ni allwch chi dderbyn Cymhorthdal Incwm.
Os ydych yn mynd dramor dros dro, efallai y gallwch dderbyn Cymhorthdal Incwm am y 4 wythnos gyntaf y byddwch dramor. Gallwch wneud hyn dim ond os ydych yn annhebygol o fod dramor am fwy na 52 wythnos, os byddech yn dal i fod yn gymwys am Gymhorthdal Incwm pe byddech wedi aros yn y Deyrnas Unedig, ac os yw un o'r canlynol yn wir amdanoch chi:
- ni allwch weithio oherwydd salwch neu anabledd ac rydych wedi mynd dramor i gael triniaeth ar gyfer y salwch neu'r anabledd hwnnw yn unig
- nid ydych wedi gallu gweithio ers 364 diwrnod pan ewch chi dramor
- rydych yn derbyn premiwm pensiynwr neu bremiwm anabledd ar gyfer partner sy'n mynd dramor gyda chi.
Efallai y byddwch yn gallu derbyn Cymhorthdal Incwm am yr 8 wythnos gyntaf:
- os ydych chi, neu aelod o'ch teulu, yn mynd dramor dim ond i helpu dibynnydd sy'n mynd dramor am driniaeth feddygol gan berson cymwysedig, ac
- os ydych chi'n annhebygol o fod dramor am fwy na 52 wythnos, ac y byddech yn dal yn gymwys am Gymhorthdal Incwm pe baech wedi aros yn y DU.
Os ydych chi'n mynd dramor, bydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rai gwledydd drwy'r wefan hon.
Os ydw i'n rhan o deulu yn y lluoedd arfog sy'n mynd neu'n byw dramor?
Mae'r rheolau ar gyfer mynd dramor yr un peth ag y maent ar gyfer unrhyw un arall sy'n mynd dramor. Gweler uchod.
Os bydda i'n dechrau gweithio ond bydd fy salwch neu anabledd yn golygu bod rhaid i mi roi'r gorau iddi eto?
Os byddwch yn dechrau gweithio ond yn gorfod rhoi'r gorau iddi cyn pen 52 wythnos yn sgil eich salwch neu anabledd, efallai y byddwch yn gallu mynd yn ôl i Gymhorthdal Incwm ar yr un lefel â'r hyn roeddech yn derbyn cyn i chi ddechrau gweithio.
Er mwyn gallu gwneud hyn:
- mae'n rhaid eich bod wedi bod yn sâl am 28 wythnos o leiaf ac
- mae'n rhaid eich bod wedi dechrau gwaith neu hyfforddiant cyn pen 7 diwrnod ar ôl derbyn Cymhorthdal Incwm ac
- mae'n rhaid i'ch amgylchiadau eraill fod yr un peth.
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich swyddfa nawdd cymdeithasol eich bod wedi dechrau gwaith neu hyfforddiant cyn pen un mis o'r dyddiad y dechreuoch.
Ni allwch gael diogelwch os daeth eich budd-dal i ben oherwydd prawf meddygol.
Os bydda i'n dechrau gwaith gwirfoddol?
Gallwch wneud faint bynnag o waith gwirfoddol ag y mynnwch. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich Cymhorthdal Incwm ar yr amod nad ydych yn derbyn unrhyw dâl ac eithrio i dalu am dreuliau fel costau teithio neu ddillad arbennig y mae eu hangen arnoch ar gyfer y gwaith gwirfoddol.
Ni fydd eich Cymhorthdal Incwm yn cael ei effeithio os yw'n rhesymol i'r person neu'r sefydliad rydych yn gwneud y gwaith gwirfoddol ar eu cyfer beidio â'ch talu.
Os yw'n afresymol peidio â`ch talu, byddwn yn lleihau'ch Cymhorthdal Incwm yn ôl y swm y gallech ddisgwyl cael eich talu ar gyfer y gwaith rydych yn ei wneud, hyd yn oed os nad ydych yn cael eich talu.
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich swyddfa nawdd cymdeithasol os gwnewch unrhyw waith gwirfoddol. Hefyd, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ni os cewch eich talu mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys tâl nad yw'n arian, a allai fod yn rhywbeth fel tocynnau bwyd.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth neu daflenni, cysylltwch â`ch swyddfa nawdd cymdeithasol.
Help arall
- Cartrefi gofal
- Aros dros dro mewn cartref gofal neu gartref nyrsio preswyl
- Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
- Lwfans Gweini (AA)
- Lwfans Gofalwr (CA)
- Budd-dal Tai
- Budd-dal Treth Cyngor
Diffiniadau
Mae`r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn cynnwys pob gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd (UE): yr Almaen, Awstria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gweriniaeth Iwerddon, Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, yr Iseldiroedd, Latfia, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Sbaen, Slofacia, Slofenia, a Sweden.
Mae'r DU yn golygu Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid yw'n cynnwys Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw.
Mae Prydain Fawr yn golygu Cymru, Lloegr a'r Alban.
Cofiwch mai dim ond arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw'r wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodol o'r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar y dyddiad a ddangosir ar frig y dudalen hon. Fodd bynnag, gallai newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan yn llai cywir gydag amser.