Cymorth i ofalwyr
Diweddarwyd ddiwethaf fis Mai 2005
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith. Dewch o hyd i’ch swyddfa leol.
Beth ydyw?
Efallai y gallwch gael help gyda phethau fel addasu cartref ar gyfer person anabl, gofal seibiant neu gefnogaeth arall. Help i ofalu am y person rydych yn gofalu amdano/i tra chewch chi seibiant yw gofal seibiant.
Allaf i ei gael?
Cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol, neu, yn yr Alban, â’ch adran gwaith cymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth
I gysylltu â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol, chwiliwch o dan enw’ch Cyngor Sir, Cyngor Bwrdeistref neu, mewn rhai achosion, Awdurdod Unedol newydd, neu Fwrdeistref Llundain. Os ydych yn byw yn yr Alban, chwiliwch o dan enw’ch Cyngor Rhanbarthol neu Gyngor Ynys.
Efallai y gallwch ddysgu am sefydliadau lleol eraill a allai helpu yn y llyfr ffôn, yn eich llyfrgell leol, adran y gwasanaethau cymdeithasol neu mewn meddygfa.
Neu gallwch gysylltu â Carers UK drwy ffonio’r rhif Rhadffon 0808 808 7777 10.00am i 12 canol dydd a 2.00pm i 4.00pm Mercher ac Iau yn unig. Y cyfeiriad yw:
Carers UK
20-25 Glasshouse Yard
Llundain EC1A 4JT
Cofiwch mai dim ond arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw’r wefan hon, ac nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodol o’r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar y dyddiad a ddangosir ar frig y dudalen hon. Fodd bynnag, gallai newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan yn llai cywir gydag amser.