Sut mae’n rhaid ystyried codiadau cyflog pan gyfrifir Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) - SMP a dyfarniad "Alabaster" LlCE
1. Beth yw "Alabaster"
"Alabaster" yw`r enw byr ar yr achos a gyfeiriwyd at Lys Cyfiawnder Ewrop (LlCE). Enw llawn yr achos yw "M.K. Alabaster-v-Barclays Bank PLC (Woolwich PLC gynt) a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol”.
2. Beth mae’r achos yn ymwneud ag e?
Roedd yr achos yn ymwneud â chyflogwr a oedd yn talu SMP yn unol â’r ddeddfwriaeth. Dyfarnodd y cyflogwr godiad cyflog a ddechreuodd cyn i’r fenyw ddechrau ei chyfnod mamolaeth, ond ar ôl y cyfnod penodol a ddefnyddiwyd i gyfrifo’i SMP. 8 wythnos yw`r cyfnod penodol. Rydym yn seilio faint o SMP gaiff ei dalu ar y swm o enillion a delir i’r gweithiwr yn ystod y cyfnod hwn. Roedd hyn yn golygu na chafodd y codiad cyflog ei adlewyrchu yn yr SMP y derbyniodd, oherwydd nad oedd y codiad cyflog wedi’i ddyddio nôl i effeithio ar enillion a dalwyd yn ystod y cyfnod penodol. Dadleuodd y fenyw y dylai ei SMP, er gwaethaf hynny, gael ei gynyddu i adlewyrchu’r codiad cyflog.
3. Beth oedd penderfyniad y Llys?
Cafodd y Llys "...rhaid i unrhyw godiad cyflog a ddyfernir rhwng dechrau’r cyfnod y mae’r tâl cyfeirio’n ymwneud ag e [h.y. y cyfnod perthnasol ar gyfer cyfrifo SMP] a diwedd y cyfnod mamolaeth gael ei gynnwys yn yr elfennau tâl a ystyrir wrth gyfrifo swm tâl o’r fath. Nid yw’r gofyniad hwn wedi`i gyfyngu i achosion lle caiff y codiad cyflog ei ddyddio nôl i’r cyfnod y mae`r tâl cyfeirio’n ymwneud ag e."
4. Beth mae hyn yn golygu o ran taliadau SMP?
I’r rhan fwyaf o fenywod, telir SMP yn ôl 90% o enillion ar gyfartaledd y fenyw am y 6 wythnos gyntaf. Ar gyfer rhai merched sydd ar gyflog is, telir y gyfradd 90% am 26 wythnos. Hyd at 5 April 2005, pe byddai menyw yn cael codiad cyflog, byddai’n cael ei ddyddio nôl i gynyddu’r enillion a dalwyd eisoes yn y cyfnod penodol, wedyn byddai’n rhaid i’r cyflogwr ail-gyfrifo’r swm o SMP a oedd i’w dalu. Yn union fel pe bai’r codiad cyflog wedi’i roi ar y dyddiad roedd yn ddyledus.
O ganlyniad i benderfyniad LlCE, mae`r ddeddfwriaeth wedi newid ers 6 Ebrill 2005.
O 6 Ebrill 2005, os bydd cyflogwr yn dyfarnu codiad cyflog sy`n dod i rym o unrhyw bryd rhwng dechrau’r cyfnod penodol a diwedd cyfnod mamolaeth y gweithiwr, yna mae’n rhaid i’r cyflogwr ail-gyfrifo’r SMP sy’n ddyledus. Mae `Cyfnod mamolaeth` yn golygu naill ai gyfnod mamolaeth arferol neu gyfnod mamolaeth ychwanegol. Mae hefyd yn berthnasol os bydd y cyflogwr yn dyfarnu codiad cyflog cyn 6 Ebrill 2005, ond os nad yw wedi talu’r codiad cyflog erbyn hynny.
5. Sut mae hyn yn gweithio
Os yw cyflogwr yn dyrannu codiad cyflog o 3%, er enghraifft, sy’n dod i rym yn ystod cyfnod mamolaeth menyw, byddai’n rhaid cymhwyso`r codiad cyflog hwnnw o 3% i’r enillion a ddefnyddir i gyfrifo’r SMP sy’n daladwy. Gallai hyn arwain at gyfradd newydd o SMP yn ddyledus, lle caiff yr SMP ei dalu eisoes. Yn y ddau achos canlynol, mae codiad cyflog yn ddyledus i’r fenyw ar 1 Gorffennaf bob blwyddyn, ac mae gan y ddwy hawl i SMP:
Enghraifft A
| Codiad cyflog yn ddyledus | Dyddiadau’r cyfnod mamolaeth | Dechrau’r cyfnod penodol |
| 01-Gorff-05 | 1 Chwefror 2005 - 31 Ionawr 2006 | 01-Tach-04 |
Mae’n rhaid i’r cyflogwr ail-gyfrifo SMP i ystyried y codiad cyflog sy’n ddyledus o 1 Gorffennaf 2005 oherwydd roedd y dyddiad y daeth y codiad cyflog i rym yn dod o fewn y cyfnod rhwng 1 Tachwedd 2004 a 31 Ionawr 2006.
Enghraifft B
| Codiad cyflog yn ddyledus | Dyddiadau’r cyfnod mamolaeth | Dechrau’r cyfnod penodol |
| 1 Gorffennaf 2005 a 1 Gorffennaf 2006 | 1 Awst 2005 - 30 Gorffennaf 2006 | 01-Mai-05 |
Mae’n rhaid i’r cyflogwr ail-gyfrifo SMP i ystyried y codiad cyflog sy’n ddyledus o 1 Gorffennaf 2005, ac oherwydd bod y fenyw ar gyfnod mamolaeth o hyd ar 1 Gorffennaf 2006, mae’n rhaid i’r cyflogwr ail-gyfrifo’i SMP eto.
Os bydd y fenyw yn penderfynu dychwelyd i’r gwaith yn gynnar, yn yr enghraifft hon, a dod â’i chyfnod mamolaeth i ben ar 30 Ebrill 2006, dim ond y codiad cyflog o 1 Gorffennaf 2005 a fydd yn effeithio ar ei SMP.
6. Gallai`r amser rhwng dechrau’r cyfnod penodol a diwedd y cyfnod mamolaeth fod mor hir â 17 mis, a hyd yn oed yn fwy mewn rhai achosion. Yn ystod y cyfnod hwnnw, efallai bydd mwy nag un codiad cyflog wedi’i ddyfarnu. A fydd rhaid i gyflogwr ail-gyfrifo’r SMP bob tro?
Bydd. Mae’n rhaid i unrhyw godiad cyflog sy’n effeithiol o ddyddiad sy’n dod rhwng dechrau’r cyfnod penodol a diwedd y cyfnod mamolaeth gael ei adlewyrchu yn yr SMP a delir.
7. Ni fydd SMP rhai merched yn seiliedig ar eu henillion gwreiddiol oherwydd bod eu henillion yn rhy isel. Mae`r codiad cyflog yn golygu eu bod bellach yn gymwys am SMP am y tro cyntaf, ond maent wedi cael Lwfans Mamolaeth yn lle. Beth ddylai cyflogwyr a merched wneud?
Os bydd menyw’n gymwys am SMP dim ond yn sgil codiad cyflog dilynol, gall y cyflogwr dybio bod y fenyw wedi derbyn Lwfans Mamolaeth (MA) ar y gyfradd safonol, os na chaiff wybod yn wahanol. Wedyn, dylai’r cyflogwr dalu’r gwahaniaeth rhwng yr MA a dalwyd eisoes a’r SMP sy’n ddyledus. Mae’n rhaid i fenywod sydd wedi derbyn MA ar gyfradd is na’r gyfradd safonol, neu nad oeddent yn gymwys am Lwfans Mamolaeth o gwbl, gael llythyr gan eu swyddfa Canolfan Byd Gwaith i ddangos hyn. Mae angen iddynt roi’r llythyr hwn i’w cyflogwr er mwyn i’r cyflogwr wybod faint o SMP i’w dalu iddynt.
8. Beth mae diwedd y cyfnod mamolaeth yn golygu?
Ar gyfer y cynllun statudol, mae diwedd y cyfnod mamolaeth yn golygu diwedd unrhyw amser o gyfnod mamolaeth arferol ac o unrhyw gyfnod mamolaeth ychwanegol.
9. A yw’r dyfarniad yn effeithio ar gynlluniau tâl mamolaeth galwedigaethol cyflogwyr hefyd?
Mater i’r cyflogwyr ei ystyried fydd hyn, gan edrych ar delerau ac amodau eu cynlluniau penodol, p’un a oes gan ddyfarniad LlCE unrhyw effaith, ac os oes, p’un a oes angen unrhyw newidiadau.
10. Os yw menyw wedi derbyn SMP yn y gorffennol ac o’r farn y gallai fod ganddi hawl i ôl-ddyledion, a gaiff hi ofyn i’w chyflogwr ystyried ei SMP eto?
Nid yw’r ddeddfwriaeth ddiwygio yn ôl-weithredol, ac felly nid oes gofyniad cyffredinol ar gyflogwyr i ail-gyfrifo SMP. Fodd bynnag, cynghorir cyflogwyr i ystyried cais penodol am ôl-ddyledion SMP a allai fod yn ddyledus o ganlyniad i godiadau cyflog a ddyfarnwyd yn y gorffennol fel a ganlyn:
I gyn-weithwyr: mae’n rhaid i gais fod wedi’i wneud cyn pen 6 mis o’r dyddiad y gwnaethant adael y gyflogaeth.
I weithwyr presennol: os bydd gweithiwr o’r farn y dylid bod wedi ystyried codiad cyflog, gall wneud cais am gael talu ôl-daliadau. Dylid gwneud y cais hwn cyn pen 6 mlynedd o’r dyddiad y caiff SMP ei dalu ac wedyn gall ofyn i’w chyflogwr ail-gyfrifo’r SMP.
Fodd bynnag, dim ond am 3 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maent yn cyfeirio ati y mae’n rhaid i gyflogwyr gadw cofnodion SMP. Felly, os bydd menyw’n gwneud cais sy’n ymwneud â chyfnod lle nad yw’r cofnodion angenrheidiol gan ei chyflogwr, rydym o’r farn ei bod yn rhesymol i’r fenyw ddarparu digon o dystiolaeth i brofi ei chais er mwyn caniatáu i’w chyflogwr ail-gyfrifo unrhyw SMP sy’n ddyledus.
Hefyd, os bydd diwedd y chwe blynedd yn dod o fewn Cyfnod Tâl Mamolaeth menyw, rydym o’r farn y gallai’r fenyw fod â hawl i gael ei SMP wedi’i ail-gyfrifo, ar yr amod y gall brofi’i chais. Ond yn yr achosion hyn, bydd ganddi hawl i dderbyn taliadau ychwanegol dim ond ar gyfer yr wythnosau hynny yn y Cyfnod Mamolaeth sy’n dod o fewn y chwe blynedd o ddyddiad ei chais.
11. A yw’r dyfarniad yn golygu y gellir ystyried gostyngiadau cyflog, er enghraifft, os bydd y gweithlu’n cytuno i ostyngiad cyflog os yw’r cyflogwr mewn trafferthion ariannol?
Nac ydy. Mae dyfarniad LlCE yn cyfeirio’n unig at godiadau cyflog, a’n cyngor cyfreithiol ni yw nad yw goblygiadau’r penderfyniad yn ymestyn at ostyngiadau cyflog.
12. Beth yw ystyr codiad cyflog?
Ni chaiff hyn ei ddiffinio mewn deddfwriaeth. Mater i’r fenyw a’i chyflogwr yw defnyddio synnwyr cyffredin ac, os oes anghydweld, gall y gweithiwr ddefnyddio’r weithdrefn anghydfod sefydledig gan Gyllid a Thollau EM (HMRC). Yr ystyr yw`r codiad canran y byddai’r fenyw unigol wedi’i dderbyn sy’n berthnasol i gyfrifo’i SMP. Mae’n rhaid i unrhyw godiad gael ei weithredu ar yr holl elfennau tâl a fyddai wedi denu codiad o’r fath ac a ddefnyddir wrth gyfrifo’r enillion wythnosol ar gyfartaledd er mwyn cyrraedd y ffigur enillion newydd.
13. Beth fydd yn digwydd os bydd cyfnod mamolaeth cytundebol yn hirach na chyfnod mamolaeth statudol?
Mae’r rheoliadau diwygio’n diffinio "cyfnod mamolaeth statudol" fel cyfnod mamolaeth arferol neu ychwanegol o dan adrannau 71 a 73 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Gweler cwestiwn 9.
14. Os cyhoeddir codiadau cyflog ymlaen llaw (er enghraifft, cytundebau tâl 3 blynedd), ac os yw rhai ohonynt yn statudol (er enghraifft, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol), a gaiff cyflogwyr ragdybio hyn a chyfrifo’r SMP gan ystyried y rhain?
Caiff. Mae rhagdybio’r codiad cyflog yn gwneud synnwyr, oherwydd byddai’n fwy effeithlon. Fodd bynnag, yn yr un modd â thalu SMP mewn un tro, gallai hyn arwain at dalu gormod o SMP os bydd y gweithiwr yn dychwelyd i’r gwaith yn gynnar, cyn i’r codiad cyflog arfaethedig ddod i rym. Hefyd, byddai’n rhaid i’r cyflogwr wneud ad-daliad i HMRC am unrhyw arian a dynnir yn ôl am SMP a delir.
15. Pa ddull a ddylid ei ddefnyddio ar gyfer menyw sydd ag enillion croniadol, fel sy’n gyffredin yn y GIG, a lle bydd codiad cyflog mewn un gyflogaeth yn unig?
Mae Rheoliadau SMP (Gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 1991 yn rhoi hawl i rai gweithwyr i ddewis cael eu contractau wedi’u trin fel un contract at ddibenion SMP, pe bai hyn yn fanteisiol iddynt at ddibenion SMP. Er enghraifft, byddai enillion o Gontract A ac o Gontract B a dalwyd yn ystod y cyfnod penodol yn cael eu cyfuno i bennu pa SMP y dylid ei dalu. Os bydd cyflogwr Contract A yn dyfarnu codiad cyflog, dim ond yr enillion yn y cyfnod penodol sy’n deillio o Gontract A y dylid eu cynyddu i gyfrifo’r SMP newydd sy’n ddyledus.
16. Os bydd menyw’n dychwelyd o gyfnod mamolaeth yn gynnar, ar ôl i SMP ychwanegol gael ei dalu ond bod y codiad nawr yn dod i rym ar ôl iddi ddychwelyd, a oes rhaid iddi ad-dalu SMP?
Caiff SMP ei gynnwys yn y diffiniad o "gyflogau" yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Felly, mae gan gyflogwyr hawl i adfer SMP a or-dalwyd yn yr un modd ag y cânt adfer unrhyw daliadau gormodol o dâl neu gyflog. Hefyd, byddai’n rhaid i gyflogwyr wneud ad-daliad i HMRC am unrhyw arian a gaiff ei adfer o SMP a delir.
17. I’r rhan fwyaf o fenywod, enillion sy’n berthnasol am y 6 wythnos gyntaf yw SMP. A fydd codiad cyflog yn effeithio ar yr wythnosau eraill, pan gaiff y gyfradd safonol ei thalu?
Ni all unrhyw fenyw dderbyn mwy na’r gyfradd SMP safonol ar gyfer yr wythnosau pan fo’r gyfradd safonol yn ddyledus.
18. A fydd rhaid i gyflogwyr gadw cofnodion SMP am hirach neu gadw unrhyw gofnodion ychwanegol?
Gallai dyfarniad tâl am hyd at 17 mis ar ôl dechrau’r cyfnod perthnasol effeithio ar y cyfrifiad o’r SMP. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae`n ofynnol i gyflogwyr gadw cofnodion am 3 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth pan ddaeth y cyfnod tâl mamolaeth i ben. Felly, dylai’r cofnodion fod gan gyflogwyr ar gyfer dyfarniad tâl hwyr hyd yn oed, felly ni ddylid bod newid yn y gofynion cadw cofnodion. Pan wneir taliad, dylai cyflogwyr ei gofnodi yn yr un modd ag unrhyw daliad hwyr arall.
19. A all cyflogwyr adfer unrhyw SMP ychwanegol y byddant yn ei dalu?
Gallant. Mae’r rheolau newydd yn weithredol o 6 Ebrill 2005 felly gellir adfer unrhyw ôl-daliadau o SMP a delir ar neu ar ôl y dyddiad hwn. Gall cyflogwr adfer y swm ychwanegol o SMP a delir ar y dyddiad ad-dalu sy’n berthnasol i’r flwyddyn dreth pan delir yr ôl-daliadau. Er enghraifft, wrth edrych ar 6 Ebrill 2004 pan gynyddodd y Trothwy Rhyddhad i Gyflogwyr Bychain i £45,000, byddai unrhyw daliadau SMP a wneir ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael eu hasesu ar gyfer ad-dalu gan ddefnyddio’r trothwy £45,000.
20. Hoffwn wirio’r rheoliadau ar hyn. Ble maent hwy?
Mae Adrannau 164 i 171 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a Rheoliadau (Cyffredinol) Tâl Mamolaeth Statudol 1986 (prif reoliadau) yn gosod y rheolau ar gyfer SMP. Diwygiodd Rheoliadau (Cyffredinol)(Diwygio) Tâl Mamolaeth Statudol 2005 (SI 2005/729) y prif reoliadau i wneud y newid hwn.
21. Rwy`n gyflogwr ac mae angen help arna i gyda hwn. Ble galla i fynd?
HMRC sy’n gyfrifol am weinyddu SMP ac am gynnig arweiniad i gyflogwyr. Mae canllaw manwl ar SMP a rhywfaint o wybodaeth am effaith codiadau cyflog ar SMP yn rhifyn 2005 o Lyfryn Cymorth y Cylfogwr E15 (Atodiad) "Tâl ac amser i ffwrdd o’r gwaith i rieni sydd ar gael drwy wefan HMRC. Am gymorth manwl, ffoniwch Llinell Gymorth y Cyflogwyr HMRC ar 0845 7 143 143.