Gwasanaethau a
budd-daliadau

Newyddion y DCS

Mwy o brofi rhestr wirio Lwfans Byw i’r Anabl

5 Mehefin 2008

Mae Gwasanaeth Pensiwn Anabledd a Gofalwyr wedi datblygu ffurflen (DLA960) i fynd gyda ffurflenni cais oedolyn Lwfans Byw i’r Anabl.

Rhestr wirio yw DLA960 o gwestiynau i helpu’r cwsmer weithio allan os allant gael Lwfans Byw i’r Anabl ac i wneud yr amodau hawlio yn haws i’w deall.

Cafodd y rhestr wirio ei phrofi yn ardal y Canolbarth ym Mawrth 2008. O 9 Mehefin i 5 Medi, bydd y ffurflen yn cael ei phrofi yn Swyddfa Canolfan Byd Gwaith St Annes, Lancashire. Bydd y prawf hwn yn cynnwys swyddfa Canolfan Byd Gwaith Lancaster o 10 Gorffennaf 2008.

Mae ymchwil annibynnol wedi adnabod diffyg dealltwriaeth eang o bwrpas y budd-dal a’r amodau hawlio. O ganlyniad, mae Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr yn cael nifer fawr o geisiadau ple mae’n glir nad oes gan y cwsmer hawl i’r budd-dal. Y mwyafrif o’r rhain yw ceisiau oedolion i Lwfans Byw i’r Anabl. Nid yw proseu ceisiadau o’r fath yn werth ychwanegol i’r cwsmer sy’n gorfod llenwi ffurflen gais.

Os ydych yn defnyddio’r rhestr wirio pan yn helpu cwsmer i gwblhau’r ffurflen gais oedolyn Lwfans Byw i’r Anabl, hoffem glywed beth rydych yn feddwl ohoni. Ebostiwch eich adborth i:external.communications@dwp.gsi.gov.uk

 

Budd-daliadau anabledd a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir

3 Ebrill 2008

Penderfynodd Llys Cyfiawnder Ewrop ar 18 Hydref 2007 y dylid ystyried ambell fudd-dal anabledd yn y Deyrnas Unedig fel budd-daliadau salwch. Golyga hyn y cânt eu talu i ambell berson sy’n gadael y DU i fwy mewn gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) arall neu’r Swistir.

Mae’r penderfyniad yn effeithio ar:

Mae’r adran wedi rhyddhau manylion y prif gwrpaiu o gwsmeriaid y gallai parhau i gael budd-daliadau anabledd os byddant yn symud i wladwriaeth AEE arall neu’r Swistir. Mae’r wybodaeth hon ar gael ar wefan Directgov

Bydd newyddion pellach am gymhwyster pobl sydd eisoes yn byw mewn gwladwriaeth AEE arall neu’r Swistir sydd am wneud cais dramor cyn gynted ag y bydd ar gael. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar gyfer grwpiau eraill o gwsmeriaid y gallai fod â hawl i barhau i gael budd‑daliadau anabledd os byddant yn symud i fyw mewn Gwladwriaeth AEE arall neu’r Swistir.

Lansiady Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr.

1 Ebrill 2008

Ar 1 Ebrill 2008 lansiodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei Hasiantaeth newydd sef y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr sef cyfuniad o’i dwy asiantaeth bresennol, sef Y Gwasanaeth Pensiwn a’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr. Mae prif Weithredwr yr Asiantaeth Terry Moran wedi cael ei recriwtio, a chaiff cynllun busnes unigol ei gyhoeddi yn fuan.

Mae dros 50 y cant o gwsmeriaid y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr eisoes yn gwsmeriaid Y Gwasanaeth Pensiwn. Bydd lansiad yr asiantaeth newydd yn ein galluogi i gynnig cynnyrch a gwasanaethau gwell a mwy di-dor a gynllunnir i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, sydd wrth wraidd ein huchelgais am newid.  Rydym eisoes yn cydweithio i ganfod ffyrdd y gallwn uno ein gwasanaethau.

Byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd Bwrdd ar y cyd â’r Ganolfan Byd Gwaith yn y dyfodol, tra’n anelu at weithio’n agosach i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau chydgysylltiedig  i gwsmeriaid o oedran gweithio. Ni fydd creu’r Asiantaeth newydd ynddo’i hun yn newid y ffordd y bydd DWP yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid o oedran gweithio. Byddwn yn parhau i weithio i edrych ar sut y gallwn wella gwasanaethau i blant anabl a’u teuluoedd.

Bydd y ddau sefydliad presennol – Y Gwasanaeth Pensiwn a’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr – yn parhau i weithredu o dan eu henwau presennol a bydd eu cwsmeriaid yn parhau i gael y gwasanaethau y cânt yn awr.

Y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr a’r Gwasanaeth Pensiwn yn uno

22 Ionawr 2008

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi penderfynu uno dwy o’i hasiantaethau presennol, sef Y Gwasanaeth Pensiwn a’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr,  gan ffurfio Asiantaeth newydd o 1 Ebrill 2008, sef y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr.

Mae dros 50 y cant o gwsmeriaid y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr eisoes yn gwsmeriaid Y Gwasanaeth Pensiwn. Bydd lansiad yr asiantaeth newydd yn ein galluogi i gynnig cynnyrch a gwasanaethau gwell a mwy di-dor a gynllunnir i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, sydd wrth wraidd ein huchelgais am newid.  Byddwn yn rhannu arbenigedd a phrofiad i sicrhau bod ein gwelliannau diweddar yn y maes gwasanaethau cwsmeriaid yn parhau.

Mae’r ddwy Asiantaeth bresennol yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd ar y cyd â’r Ganolfan Byd Gwaith a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol, tra’n anelu at weithio’n agosach i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cydgysylltiedig  i gwsmeriaid o oedran gweithio. Ni fydd creu’r Asiantaeth newydd ynddo’i hun yn newid y ffordd y bydd DWP yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid o oedran gweithio.

Bydd y ddau sefydliad presennol – Y Gwasanaeth Pensiwn a’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr – yn parhau i weithredu o dan eu henwau presennol a bydd eu cwsmeriaid yn parhau i gael y gwasanaethau y cânt yn awr. Ond, dros amser, bydd yr Asiantaeth newydd yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth mwy cydlynol i’w chwsmeriaid a fydd yn anelu at ddiwallu mwy o’u hanghenion mewn ffordd gydysgylltiedig a di-dor. Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth bellach ar y safle hwn wrth i benderfyniadau gael eu gwneud.

Mae ein cwsmeriaid yn disgwyl gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf a byddwn bob amser yn anelu at wella, gan barhau â’r cynnydd a wnaed gennym dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Ymarfer Rheolau Arbennig

Yn gynharach eleni, ar ôl ymgynghoriad gyda sefydliadau allanol allweddol, cynhaliodd y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr (DCS ) ymarfer ar brawf yn archwilio rhai achosion DLA ac AA a ddyfarnwyd o dan y ddarpariaeth Rheolau Arbennig.

Roedd hyn yn dilyn argymhelliad a wnaed gan y Bwrdd Ymgynghori Lwfans Byw i’r Anabl (DLAAB) y dylid rhoi ystyriaeth i adolygu achosion Rheolau Arbennig sydd wedi cael eu talu am fwy na thair blynedd.

Rydym nawr wedi penderfynu lledu’r ymarfer bellach i ailedrych ar fwy o achosion a wnaed o dan y ddarpariaeth Rheolau Arbennig sydd wedi cael eu talu am fwy na thair blynedd. Gwneir hyn drwy ddefnyddio ymagwedd cam wrth gam a bennir gan oedran y cwsmer:

Byddwn yn edrych yn gyntaf ar achosion y cwsmeriaid hynny sydd o dan 55 mlwydd oed ac yna’n symud ymlaen i gwsmeriaid sydd rhwng 55 a 64 oed.

Ynghyd â hyn, byddwn yn edrych ar sampl ychwanegol o achosion lle mae’r cwsmer rhwng 65 a 84 mlwydd oed. Bydd y wybodaeth hon yn hysbysu penderfyniadau am p’un a ddylid lledu’r ymarfer i gynnwys cwsmeriaid yn y grŵp oedran hwn.

Mae cwsmeriaid dros 85 mlwydd oed wedi cael eu heithrio o’r ymarfer gan fod tystiolaeth o’r rhaglen beilot yn dangos bod y rhan fwyaf o daliadau tâl yn y grŵp oedran hwn yn parhau i fod yn gywir.

Dechreuodd yr ymarfer ym mis Tachwedd 2007 a bydd yn para am tua 12 mis. 

Bydd y cwsmeriaid a ddewisir i gymryd rhan yn yr ymarfer yn cael ffurflen ymholi (DBD551) gennym drwy’r post.

Mae’r ffurflen yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr meddygol y cwsmer a meddyg teulu presennol.

Ar y ffurflen hon, bydd rhif ffôn uniongyrchol ar gyfer y swyddog penderfyniadau sy’n ailedrych ar eu hachos.

Rhaglen Taliad Cywir – 8 Tachwedd 2007

Cyfwynwyd y Rhaglen Taliad Cywir ym mis Mai 2007. Fel sy’n berthnasol i bob budd-dal arall, mae angen i’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr ddiogelu arian trethdalwyr a sicrhau ein bod yn talu’r swm cywir o Lwfans Byw i’r Anabl. Mae’r Rhaglen Taliad Cywir yn ein helpu i wneud hynny.

Mae’r Rhaglen Taliad Cywir yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’r Ymholiad Cyfnodol a’r Adolygiad Budd‑daliadau Cenedlaethol. Trafodwyd y rhaglen gyda’r prif grwpiau anabledd yn y Fforwm Cynghori Anabledd ym mis Ebrill 2007 cyn y cafodd ei chyflwyno ac yn gynnar ym mis Tachwedd pan gafodd y Fforwm y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r rhaglen yn cymryd sampl o 12,000 o achosion Lwfans Byw i’r Anabl bob blwyddyn– sef llai na 0.5 y cant o’n 2.5 million o gwsmeriaid Lwfans Byw i’r Anabl. O’r rhain, dewiswyd 3750 ar hap ac maent yn ein galluogi i sefydlu mesur ystadegol ddilys o’r lefel gwallau ar gyfer Lwfans Byw i’r Anabl.

Dewiswyd y 8250 o achosion sy’n weddill o blith y rhai y dengys ymchwil sydd â’r potensial mwyaf i newid. Ni chaiff achosion sydd wedi cael eu hystyried yn ystod y deuddeng mis diweddaf am reswm arall eu cynnwys.

Cysylltir â chwsmeriaid i gwblhau ffurflen ymholiad yn y post. Fel sy’n briodol yn y pecyn cais Lwfans Byw i’r Anabl cyfredol, gallant ofyn i rywun sy’n eu hadnabod i’w helpu i’w chwblhau. Yna ystyrir y ffurflen wedi’i chwblhau gan dîm o Swyddogion Penderfyniadau. Os bydd angen, gellir cael rhagor o wybodaeth cyn y gwneir penderfyniad ynglŷn â’r swm o fudd-dal y dylid ei dalu.

Mae’r Rhaglen Taliad Cywir yn ddibynnol ar p’un a yw’r taliad Lwfans Byw i’r Anabl yn gywir, gan ganolbwyntio ar dandaliadau posibl yn ogystal â gordaliadau. Golyga hyn y bydd rhai cwsmeriaid yn gweld cynnydd yn eu dyfarniadau Lwfans Byw i’r Anabl.

Rydym yn gwerthuso’r rhaglen yn gyson a chawn weld canfyddiadau cychwynnol yn hwyr ym mis Rhagfyr. Byddwn yn dysgu o’r canfyddiadau hyn ac yn gwella’r rhaglen yn ôl yr angen. Caiff y newyddion diweddaraf ei rannu gyda sefydliadau gwirfoddol a chymunedol sy’n cynrychioli cwsmeriaid sydd ag ystod eang o anableddau a’u gofalwyr.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.