Gwasanaethau a
budd-daliadau

Digwyddiadau a gwybodaeth leol

Mae gan y DCS rwydwaith o Reolwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid sy’n gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen Allymestyn.

Mae’r rhaglen Allymestyn yn ein galluogi i siarad yn uniongyrchol â’n cwsmeriaid a’u cynrychiolwyr, ac mae hefyd yn caniatáu i ni gyfarfod a siarad ag ymgynghorwyr o wahanol sefydliadau allanol.

Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod negeseuon cyson a diweddar yn cyrraedd y bobl iawn ar yr amser iawn. Hefyd, cawn adborth uniongyrchol i’n helpu i wella’n gwasanaethau.

Beth sy’n digwydd yn eich ardal chi

Defnyddiwch y cyswllt priodol yn y ddewislen i ddarllen am beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau ar wahân am Lwfans Gofalwr ar draws y wlad. Darllenwch fwy yn digwyddiadau Lwfans Gofalwr.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.