Sut i gwyno
Gallwn ddatrys y rhan fwyaf o gwynion dim ond i chi ddweud wrthym beth yw’r broblem.
Os ydych yn anhapus gyda’n gwasanaeth:
- cysylltwch â’r swydda sy’n delio â’ch cais
- dywedwch wrthym beth rydych ddim yn hapus amdano.
Byddwn yn delio gyda’ch cwyn yn y ffordd orau i chi. Er enghraifft, os ydych eisiau i ni eich ffonio yn lle ysgrifennu atoch, gadewch i ni wybod..
Byddwn yn edrych ar beth rydych yn ei ddweud ac yn cysylltu â chi amdano. Rydym yn anelu i ateb mewn wythnos a hanner.
Cael gwybod mwy
I gael gwybod mwy:
- Os ydych yn anhapus gyda’r gwasaneth rydym yn ei ddarpau, ewch i’n tudalen cwynion ar Directgov
- Ymwelwch â’n tudalennau digwyddiadau lleol i edrych ar ein perfformaid ar gwynion a chanmoliaeth
- Ymwelwch â’r dudalen cwynion ac apeliadau DWP
Beth rydym yn ei wneud i wella pethau i’n cwsmeriaid
Rydym yn cymryd eich cwynion o ddifrif ac o ganlyniad yn anelu i wella ein gwasanaethau. Dyma rai enghreifftiau o beth rydym yn ei wneud i wella pethau i’n cwsmeriaid.
Ni chefais wybod fod fy Lwfans Gofalwr yn mynd i ddod i ben oherwydd nad oedd y person oedd yn cael y gofal yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl/Lwfans Gweini mwyach
Rydym nawr yn anfon llythyr i roi gwybod i chi os yw eich Lwfans Gweini yn mynd i dod i ben ac yn esbonio pam.
Nid wyf yn hapus gyda’r cyngor a dderbyniais ar geisiadau ar y blaen
Rydym wedi anfon hysbysiad at staff yn eu hatgoffa o’r dull cywir.
Nid wyf yn cael gwybod pob amser sut mae fy nghais yn symud ymlaen
Rydym wedi anfon cyfarwyddiadau at staff yn rhoi manylion ar beth maent angen ei wneud ar pob cam o’r broses ceisiadau. Mae hyn yn cynnwys yr angen i ddiweddaru cwsmeriaid.
Nid wyf yn hapus pob amser gyda pam a phwy rydych yn eu cysylltu yngl ŷn â’m anghenion gofal
Rydym wedi datblygu cwrs ‘techneg ffôn’ i wella’r ffordd mae ein staff yn gofyn cwestiynau sensitif.
Rydych weithiau yn gwneud pederfynaid ar gais er eich bod wedi dweud wrthyf bod gennyf hyd at ddyddiad arbennig i anfon gwybodaeth pellach atoch
Rydym yn gwneud yn siŵr os ydych wedi cael gwybod bod gennych hyd at ddyddiad arbennig i anfon gwybodaeth pellach atom ein bod yn parchu hynny. Byddwn yn cysylltu â chi cyn y dyddiad targed i’ch diweddaru ar sut mae’n symud ymlaen.
Mae’r gerddoriaeth yn rhy uchel ar eich llinell gymorth
Rydym wedi ei droi i lawr!
Rydwyf wedi derbyn amlenni heb eu selio
Rydym wedi darganfod llwyth o amleni diffygiol ac wedi eu tynnu i ffwrdd rhag cael eu defnyddio.
Roedd y geirio yn un o’ch taflenni ynglŷn â Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn gamarweiniol
Rydym wedi newid ein taflen i gyfeirio at ‘waeledd’ yno ogystal ac ‘anabledd’ i’w gwneud yn haws i’w deall bod cwsmeriaid sydd â gwaeledd anwelladwy yn gallu gwneud cais hefyd.
Cefais wybod yn anghywir na allwn dderbyn Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar ôl 65 oed ond ni chefais wybod y gallwn wneud cais cyn fy mhenblwydd yn 65 oed.
Rydym wedi adolygu ein hyfforddiant llinell gymorth i’w gwneud yn haws i’n staff i ateb eich ymholiad yn gywir.
Cefais wybod y bod yn rhaid i mi wneud cwyn yn ysgrifenedig i’r Prif Weithredwr
Rydym wedi anfon i atgoffa staff y gellir gwneud cwynion ar lafar hefyd.
Mae diffyg cyfathrebu rhwng y ddwy asiantaeth yn delio gyda’m cwyn
Rydym wedi newid ein Canllaw Trin Cwynion i gynnwys canllaw i ddelio â chwynion sy’n cynnwys mwy nag un asiantaeth. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth ar sut i ddelio gyda cwynion ar draws asiantaethau yn ein hyfforddiant staff.