Cymru
Mae Canolfan Budd-daliadau Anabledd Cymru yn darparu gwasanaethau allgymorth ar gyfer Cymru gyfan.
Rydym hefyd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Cwsmeriaid a ddarperir gan Ganolfan Budd-daliadau Anabledd Cymru.
Mae Canolfan Budd-daliadau Anabledd Cymru hefyd yn prosesu ceisiadau newydd
am Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer pobl anabl yn Nyffryn Tees a Swydd
Durham (codau post TS, DH a DL). Gallwch ddarllen mwy
o wybodaeth am y newid hwn ar dudalen Newcastle.
Cysylltu â ni
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ddigwyddiadau allymestyn neu os oes gennych sylwadau am y gwasanaeth y mae DBC Cymru yn ei gynnig, cysylltwch â`r:
Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid: Ruth Hurley/Bethan Jones
Canolfan Budd-daliadau Anabledd
Bloc 3, Adeiladau’r Llywodraeth
Heol St Agnes
Gabalfa
Caerdydd
CF14 4YJ
Ffôn: 02920 586 305 neu 02920 586 364
E-bost: wales-dbc-customerservices@dwp.gsi.gov.uk
Digwyddiadau
Dangosir digwyddiadau yn y dyfodol pan gânt eu trefnu.
| Dyddiad | Lleoliad | Digwyddiad | Manylion |
|---|---|---|---|
| 05/12/08 | Canolfan Ymwelwyr Bryn Bach |
Diwrnod Hawliau Gofalwyr – digwyddiad Nadolig gofalwyr | Gofalwyr i ymweld drwy apwyntiad yn unig |
Gwybodaeth am berfformiad
Clirio ceisiadau
Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cytuno ar dargedau cenedlaethol ar gyfer clirio pob cais am Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini. Mae’r tabl isod yn dangos:
- cyflawniadau cenedlaethol y llynedd – 1 Ebrill 2006 i 31 Mawrth 2007
- targedau cenedlaethol eleni – 1 Ebrill 2007 i 31 Mawrth 2008
- cyflawniadau cenedlaethol hyd yn hyn
- cyflawniadau lleol y llynedd
- cyflawniadau lleol hyd yn hyn.
Dangosir yr holl wybodaeth mewn diwrnodau gwaith. Mae'r holl ffigyrau sydd wedi eu cyflawni hyd yn hyn o 1 Ebrill 2008 i 30 Medi 2008.
| Math o gais | Cenedlaethol | Lleol | |||
|---|---|---|---|---|---|
| Cyflawnwyd y llynedd | Targed eleni | Cyflawnwyd hyd yn hyn | Cyflawnwyd y llynedd | Cyflawnwyd hyd yn hyn | |
| Lwfans Byw i’r Anabl – cais newydd | 36 | 38 | 29.8 | 34.6 | 31 |
| Lwfans Gweini – cais newydd | 15.2 | 16 | 12.8 | 11.3 | 12.1 |
Cwynion
Os bydd cwsmer yn cwyno oherwydd nad yw’n fodlon ar ein gwasanaeth, ein targed ar gyfer ymateb i’r gwyn yw saith diwrnod gwaith.
Ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2006 i 31 Mawrth 2007 mae’r tabl yn dangos:
- · nifer y cwynion a dderbyniwyd
- y nifer a atebwyd o fewn yr amser y cytunwyd arno. Gall hyn gynnwys atebion ar gyfer cwynion a dderbyniwyd cyn 1 Ebrill 2007.
| Cenedlaethol | Lleol | ||
|---|---|---|---|
| Cwynion a dderbyniwyd | Atebwyd o fewn y targed | Cwynion a dderbyniwyd | Atebwyd o fewn y targed |
| 3701 | 3467 | 104 | 96 |
Y prif gwynion yn y Ganolfan Budd-daliadau Anabledd hon yw:
- Prosesau a gweithdrefnau
- Gohebiaeth a ffurflenni
- Tystiolaeth feddygol
Canmoliaethau
Pan mae cwsmer yn fodlon ar ein gwasanaeth maent weithiau yn dweud wrthym. Rydym hefyd yn cofnodi’r wybodaeth hon.
Derbyniodd y Ganolfan Budd-daliadau Anabledd hon 114 canmoliaeth y llynedd
Sylwadau
Os hoffech gynnig sylwadau am y wybodaeth sydd ar y dudalen hon, e-bostiwch: external.communications@dwp.gsi.gov.uk