Addewid i’r Cwsmer
"Byddwn yn trin ein cwsmeriaid a’u cynrychiolwyr â pharch ac yn cynnig gwasanaeth hygyrch, cywir ac effeithlon, gan roi gwybodaeth reolaidd i’n cwsmeriaid, a chan wrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym ac yn dysgu oddi wrtho."
Datblygwyd ein Addewid i’r Cwsmer drwy ymgynghori’n eang â’n cwsmeriaid, eu cynrychiolwyr ac o fewn DWP.
Byddwn yn parhau i roi’n cwsmeriaid wrth graidd ein gwasanaeth. Eleni rydym yn bwriadu:
- cynnal a chodi’n safonau o ran y gwasanaeth rydym yn ei gynnig i’n cwsmeriaid
- darparu gwybodaeth sy’n fwy clir
- cydweithio â’n holl bartneriaid i ateb anghenion y cwsmeriaid rydym yn eu rhannu
- datblygu a chynnal gwasanaethau ag asiantaethau Adrannol eraill sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.