Canolfan adnoddau

Y darganfyddwr gwybodaeth mewn manylder

Mae’r darganfyddwr gwybodaeth yn dweud wrthych pwy i gysylltu â hwy i gael gwybodaeth nad oedd ar y cychwyn wedi’i fwriadu ar gyfer y cyhoedd neu gyfranddeiliaid eraill, yn enwedig:

Mae’r darganfyddwr gwybodaeth yn cwmpasu gwybodaeth o bob rhan o DWP, ei asiantaethau a chyrff atodol. Nid yw’n cynnwys gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus anadrannol cysylltiedig gan ei bod yn ofynnol iddynt hwy gynnal eu cynlluniau cyhoeddi eu hunan.

Gwybodaeth a gyhoeddwyd gan DWP

Mae’r DWP yn darparu mynediad am ddim i’w gwybodaeth a gyhoeddir ar y wefan ac mewn mannau eraill. Mae hyn yn cynnwys:

Gallwch ddefnyddio’r Archif Electronig i ddod o hyd i wybodaeth hŷn a gyhoeddwyd ond sydd wedi cael ei dynnu o’r wefan.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth a gyhoeddwyd o wefannau eraill DWP a trwy ddefnyddio’r dudalen gysylltiadau ar y wefan hon.

Cefndir cyfreithiol

Mae’r Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (s19) yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cyhoeddus i fod yn rhagweithiol i roi gwybodaeth ar gael yn unol a’u Cynllun Cyhoeddi (51KB) PDF. Bwriad hyn yw i alluogi’r cyhoedd i gael mynediad at nifer fawr o wybodaeth heb orfod gwneud cais penodol o dan Rhyddid Gwybodaeth.

Gwybodaeth wedi’i eithrio

Nid oes rhaid i ni ddarparu’r wybodaeth ganlynol.

Gwybodaeth lle mae ei gyflwyno wedi ei atal o dan statud neu wedi ei eithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Gwybodaeth sydd fel arfer wedi ei eithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a deddfwriaeth arall wedi’i eithrio.

Gwybodaeth mewn ffurf drafft.

Dim ond y fersiynau ‘terfynol’ y mae disgwyl iddynt gael eu rhoi ar gael yn rhagweithiol.

Gwybodaeth sy’n cael ei ystyried ei fod wedi ei archifo.

Nid yw hyn o reidrwydd yn cynnwys archifau adrannol, ond mae’n cyfeirio at wybodaeth sydd ddim bellach yn ‘gyfredol’ fel cofnodion cyfarfodydd dros bum mlwydd oed. Gallai rhain fod yn destun i gais penodol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond nid oes disgwyl iddynt gael eu rhoi ar gael yn rhagweithiol.

Gwybodaeth na all gael ei rhoi ar gael yn rhwydd gan yr awdurdod cyhoeddus

Buasai hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd angen ei brosesu, syntheseiddio neu ei ail bacedu er mwyn iddo gael ei anfon allan i aelodau’r cyhoedd. Dim ond ‘dogfennau terfynol’ sydd angen eu cyhoeddi’n rhagweithiol.

Mwy o wybodaeth

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth rydych yn chwilio amdano yma neu mewn adrannau eraill o wefan DWP, ewch i’n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth am fanylion ar sut i wneud cais.

Am fwy o wybodaeth am Ryddid Gwybodaeth a Chynlluniau Cyhoeddi, ymwelwch a gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.