Gwasanaethau a
budd-daliadau

Diweddariad diwethaf Mai 2005

Taliad Uniongyrchol

Os cewch fudd-daliadau neu bensiwn y wladwriaeth, caiff eich arian ei dalu yn syth i mewn i gyfrif . Dyma'r ffordd fwyaf diogel o'ch talu ac mae'n caniatáu i chi ddewis sut a phryd y cewch eich arian. Ceir trefniadau gan y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu sy'n caniatáu i chi gasglu arian parod dros y cownter mewn swyddfeydd post.

Ffynonellau eraill o wybodaeth

Gallwch hefyd ofyn i unrhyw aelod o’r staff yn swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith neu swyddfeydd nawdd cymdeithasol.

Bydd rhifau ffôn ar gyfer eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, MENCAP neu Age Concern yn eich cyfeirlyfr lleol.

Unrhyw newid yn eich amgylchiadau?

Os oes gennych unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, fel newid cyfeiriad, cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich pensiwn neu fudd-daliadau.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.