Arweiniad technegol i gwmnïau yswiriant a chyfreithwyr
Mae’r tudalennau hyn yn cynnig gwybodaeth i helpu cefnogi cwmnïau yswiriant a chyfreithwyr wrth ddelio â cheisiadau am iawndal.
Bydd yr Uned Adfer Iawndal (UAI) yn gweithio gyda chi i gyflawni’ch rhwymedigaethau o dan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Adfer Budd-daliadau) 1997.
Wrth weithio gyda chi, bydd yr UAI:
- yn gosod safonau clir er mwyn i chi wybod beth i’w ddisgwyl
- yn darparu gwasanaethau sy’n hawdd i’w defnyddio i bawb
- yn trin pob gwybodaeth yn gyfrinachol
- yn cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol
- yn trin pawb yn deg ac â pharch
- yn gwneud pethau’n well mor gyflym ac effeithlon â phosibl, os ânt o’i le
Hefyd, gallwch chi ein helpu ni i’ch helpu chi drwy:
- fod â’r cyfeirnod wrth law pan fyddwch yn cysylltu â ni
- ymateb i’n ceisiadau am wybodaeth bellach yn ddi-oed
- rhoi gwybodaeth lawn a chywir, gan gynnwys dweud wrthym am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar yr hyn a wnawn
- rhoi rhif ffôn cyswllt i ni
Am ragor o wybodaeth am safon y gwasanaeth yr anelwn at ei rhoi, darllenwch Siarter y Cwsmer. Mae hefyd yn cynnwys manylion am sut i roi adborth i ni
Gallwch roi adborth i ni os ydych:
- am roi gwybod i ni eich bod yn fodlon â’n gwasanaeth
- angen mwy o help neu gyngor
- yn meddwl ein bod wedi gwneud camgymeriad
- yn anfodlon â’r gwasanaeth yr ydym wedi ei roi i chi
Darllenwch fwy am sut i roi eich cwynion a’ch canmoliaeth i ni.
Os oes gennych ddiddordeb ym mherfformiad diweddar yr UAI, darllenwch ein ystadegau perfformiad.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.