Arweiniad i gynrychiolwyr pobl sydd wedi cael anaf
Rhoi manylion i’r iawndalwr
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol am eich cleient i’r iawndalwr:
- enw llawn
- manylion unrhyw enwau eraill sydd wedi bod gan y cleient
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol
Dylech hefyd ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl am natur afiechyd neu anaf y person a anafwyd (PA).
Os oedd eich cleient mewn damwain traffig, mae’n hanfodol i chi gynnwys manylion yr ysbytai yr aethpwyd iddynt hefyd, ac a ddigwyddodd y ddamwain yn sgil cyflogaeth y cleient.
Os rhowch chi fanylion anghywir neu anghyflawn, gallai hyn beri oedi neu gamgymeriadau yn swm y budd-dal adferadwy.
Gwneud cais am ddatganiad
Os oes angen syniad arnoch o faint o fudd-dal sydd wedi’i dalu cyn y byddwch yn barod i gytuno ar gais, gallwch ysgrifennu at yr UAI a gofyn am fanylion y budd-daliadau a dalwyd. Byddwn yn anfon datganiad atoch yn dangos y budd-daliadau a delir neu a dalwyd.
Gwnawn bob ymdrech i sicrhau bod y datganiad mor gywir â phosibl, ond gallwch ofyn am adolygiad o’r datganiad os ydych o’r farn ei fod yn anghywir.
Cofiwch nad oes gan y datganiad yr un statws cyfreithiol â CRB.
Gwneud cais am dystysgrif budd-daliadau adferadwy
Ni chaiff cynrychiolwyr PAau ofyn am dystysgrif budd-daliadau adferadwy (CRB). Mae’n rhaid i’r iawndalwr neu’i gynrychiolydd ofyn am CRB cyn iddynt dalu’r iawndal, ac wedyn byddwn yn anfon copi atoch.
Mae’r CRB yn dangos cyfanswm y budd-daliadau i’w hadfer, ond gallwch ofyn am adolygiad os ydych o’r farn bod y CRB yn anghywir.
Hefyd, gall cynrychiolwyr PAau apelio yn erbyn CRB, ond gall person a anafwyd apelio dim ond os yw swm y budd-dal a dderbyniwyd wedi’i leihau, gan yr iawndalwr, i adfer y budd-daliadau a dalwyd.
Ni ellir apelio nes y cytunir ar y cais yn derfynol ac ar ôl i’r iawndalwr dalu cyfanswm y budd-daliadau adferadwy yn ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Darllenwch arweiniad manylach amAdfer Budd-daliadau a Chostau’r GIG.