Advisers

Arweiniad i Iawndalwyr

Cofrestru cais â`r UAI

Pan fyddwch chi’n cael cais am iawndal, anfonwch hysbysiad am gais am iawndal at yr UAI cyn pen 14 diwrnod. Ni fydd anfon y ffurflen hon yn golygu’ch bod yn derbyn cyfrifoldeb am y ddamwain, yr anaf neu’r afiechyd.

Ffurflen hysbysu cais am iawndal (95KB) PDF

Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch o’r ffurflen hysbysu cais am iawndal. Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen gydnabod hon atom pan fyddwch yn gwneud cais am Dystysgrif Budd-daliadau Adferadwy (CRB)

Gwneud cais am ddatganiad

Os oes angen syniad arnoch o faint o fudd-dal sydd wedi’i dalu cyn y byddwch yn barod i gytuno ar gais, gallwch ddychwelyd y ffurflen gydnabod a gofyn am fanylion y budd-daliadau a dalwyd. Byddwn yn anfon datganiad atoch yn dangos y budd-daliadau a delir neu a dalwyd.

Gwnawn bob ymdrech i sicrhau bod y datganiad mor gywir â phosibl, ond gallwch ofyn am adolygiad o’r datganiad os ydych o’r farn ei fod yn anghywir.

Cofiwch nad oes gan y datganiad yr un statws cyfreithiol â CRB.

Gwneud cais am Dystysgrif Budd-daliadau Adferadwy

Pan fyddwch chi’n barod i gytuno ar y cais, bydd angen i chi wneud cais am CRB. Gwnewch hyn drwy ddychwelyd y gydnabyddiaeth o’r ffurflen hysbysu cais am iawndal at:

Compensation Recovery Unit
Durham House
Washington
Tyne & Wear
NE38 7SF

Wedyn, byddwn yn cydnabod ein bod wedi cael eich cais cyn pen 14 diwrnod. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn yr amser hwnnw, dylech gysylltu â ni.

Byddwn yn anfon y CRB atoch cyn pen 4 wythnos i’r dyddiad y daeth eich cais i law, a byddwn hefyd yn anfon copi at y person a anafwyd neu’i g/chynrychiolydd.

Mae’r CRB yn dangos cyfanswm y budd-daliadau i’w hadfer, ond gallwch ofyn am adolygiad os ydych o’r farn bod y CRB yn anghywir.

Adnewyddu’r CRB

Pan fydd yn glir bod yr achos bron â`i ddatrys ac y bydd y CRB cyfredol yn dod i ben cyn cytuno ar yr achos, gallwch ofyn am ei hadnewyddu. Caiff y CRB newydd hon ei hanfon cyn pen 4 wythnos i’r dyddiad y daw’r CRB cyfredol i ben.

Gallwch ofyn am CRB newydd dim ond pan fyddwch yn barod i gytuno ar y cais, a gallwn anfon tystysgrif newydd dim ond wedi i’r CRB cyfredol ddod i ben.

Darllenwch arweiniad manylach am Adfer Budd-daliadau a Chostau’r GIG.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.