E-wasanaeth yr Uned Adfer Iawndal
Ar gyfer pwy mae’r e-wasanaeth? Mae e-wasanaeth yr Uned Adfer Iawndal ar gyfer iawndalwyr a’u cynrychiolwyr sydd heb fynediad at y cysylltiadau electronig presennol a ddarperir gan:
- CRIF (Cache PI)
- Experian (Cyfnewidfa Tanysgrifennu Ceisiadau (CUE))
- Y Swyddfa Gwasanaethau Yswiriant (ISO - Ymgynghorydd Canlyniad Ceisiadau)
- Electronic Data Interchange (EDI).
Peidiwch â defnyddio’r e-wasanaeth hwn os oes gan eich cwmni gysylltau electronig â`r UAI eisoes. Defnyddiwch eich cysylltiadau electronig presennol.
Defnyddio’r e-wasanaeth
Gall iawndalwyr a’u cynrychiolwyr ddefnyddio’r e-wasanaeth i:
- ofyn am dystysgrif budd-daliadau adferadwy ar gyfer cais sydd eisoes wedi’i gofrestru - CRU4
- rhoi gwybod am ganlyniad cais sydd eisoes wedi’i gofrestru - CRU102, a
- gwirio un o drafodion blaenorol yr e-wasanaeth.
Pan fyddwn yn cael cais dilys, byddwn yn anfon tystysgrif budd-daliadau adferadwy cyn pen 28 diwrnod at y cyfeiriad post diweddaraf sydd gennym ar eich cyfer. Os na chewch ymateb cyn pen 28 diwrnod, cysylltwch â ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr e-wasanaeth hwn, cysylltwch â ni.
Os byddwch yn defnyddio’r e-wasanaeth hwn yn rheolaidd, efallai yr hoffech ei ychwanegu at eich ffefrynnau.
Ewch i e-wasanaeth yr Uned Adfer Iawndal
Nôl at wybodaeth am adfer iawndal
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.