Advisers

Siarter y Cwsmer yr Uned Adfer Iawndal

Mae’r Uned Adfer Iawndal (UAI) yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Ein swyddogaeth ni yw adfer budd-daliadau a dalwyd yn sgil damwain, anaf neu afiechyd o iawndal a ddyfarnwyd ar gyfer yr un ddamwain, anaf neu afiechyd. Mae’r UAI yn adfer, ar ran yr Adran Iechyd, costau ysbyty ar gyfer trin anafiadau sy’n deillio o ddamweiniau ffordd (Adfer Costau’r GIG). Mae’r UAI hefyd yn rheoli Gwasanaeth Anfon Llythyrau Swmp Ymlaen. Gwasanaeth yw hwn a gynigir yn bennaf i sefydliadau masnachol i anfon gwybodaeth fuddiol ymlaen i gwsmeriaid nad oes ganddynt gyfeiriad cyfredol ar eu cyfer.

Lleolir yr Uned Adfer Iawndal yn Washington, Tyne a Wear. Ewch i manylion cyswllt i weld ein cyfeiriad post a’n rhifau ffôn.

Mae Siarter y Cwsmer yn rhoi gwybod i chi am safon y gwasanaeth y ceisiwn ei darparu yn ein gwaith dyddiol. Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch roi adborth i ni a beth i’w wneud os aiff pethau o’i le yn eich trafodion â ni.

Achrediad Nod Siarter

Nod Siarter – Rhagoriaeth Mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid. Mae hyn yn cysylltu â safle allanol.Fel rhan o’n nod i wella ein gwasanaeth yn barhaus, cyflawnodd Rheoli Dyled achrediad Nod Siarter yn 2006. Mae’r Uned Adfer Iawndal yn rhan o sefydliad Rheoli Dyled yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’r Nod Siarter yn un o safonau’r Llywodraeth sy’n annog:

Mae’n ymwneud ag adeiladu ar ein gwelliannau i wasanaethau cwsmeriaid. Bydd yn ein helpu i fesur y gwasanaeth cwsmeriaid rydym yn ei ddarparu ac adnabod meysydd ar gyfer gwella.

Ein cyfrifoldebau i chi

Wrth gyflwyno’n gwasanaethau byddwn yn:

Eich cyfrifoldebau i ni

Gallwch chi ein helpu ni i roi gwasanaeth da drwy:

Cyfrifoldebau i’w rhannu

Gallwn helpu’n gilydd drwy:

Rydym am roi’r gwasanaeth gorau posibl i chi, ac rydym bob tro’n ceisio gwella. Bydd gwrando ar eich safbwyntiau chi yn ein helpu i wella. Os hoffech gynnig sylwadau am y gwasanaeth rydym wedi’i roi i chi, neu os ydych o’r farn ein bod wedi gwneud rhywbeth yn anghywir neu’n dda, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid perthnasol yn yr Uned Adfer Iawndal.

Darllenwch fwy am hyn yn cwynion a chanmoliaeth

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.