Advisers

Uned Rheoli Dyled Gorfforaethol

Yr Uned Rheoli Dyled Gorfforaethol (CDCU) yw’r man canolog ar gyfer adfer dyled yn DWP, gan gynnwys taliadau sy’n ddyledus i’r UAI.

Anfonir gwybodaeth at CDCU am achosion sydd wedi bod drwy’r broses adfer dyled arferol, ond lle mae’r ddyled yn dal i fod yn ddyledus. Pan na fydd y ddyled yn cael ei thalu, bydd CDCU yn anfon llythyr at y dyledwyr.

CDCU yw’r man cyswllt olaf sydd gan iawndalwyr i glirio’u dyledion yn achosion yr UAI, cyn y cyfeirir y ddyled at gwmni a gontractir yn y sector preifat er mwyn iddyn nhw adfer y ddyled. Caiff y cwmni gyfarwyddyd i adfer dyledion, gan gynnwys awdurdod i fynd i gyfraith i adfer dyledion drwy System y Llysoedd.

Gallwch gysylltu â Paul Moad ar 0191 2247774 am ragor o wybodaeth am CDCU.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.