Gwneud Cais i Apelio
Gall y canlynol apelio:
- yr iawndalwr
- y person a anafwyd neu’r person y talwyd yr iawndal iddo/i, ond dim ond os lleihawyd taliad yr iawndal i adfer budd-daliadau a dalwyd
- rhywun sy’n gweithredu ar ran yr iawndalwr neu’r person a anafwyd, ond mae’n rhaid bod ganddynt ganiatâd ysgrifenedig y person y mae`r apêl ar ei gyfer
Sut i Apelio
- Llenwch y ffurflen - Ffurflen apelio (519KB)
- Ysgrifennwch atom gan nodi’r rhesymau dros eich apêl. Sicrhewch eich bod yn llofnodi ac yn dyddio’r llythyr neu’r ffurflen
- Llenwch bob rhan berthnasol yn y ffurflen. Gallwch gael cyngor gan ganolfan gynghori neu gan gyfreithiwr
- Os chi yw’r person a anafwyd, mae’n rhaid i chi gynnwys unrhyw lythyrau sydd gennych gan yr iawndalwr yn dweud wrthych fod yr iawndal wedi’i leihau. Anfonwch y ffurflen neu’r llythyr o fewn y terfyn amser at:
Compensation Recovery Unit
Durham House
Washington
Tyne and Wear
NE38 7SF
Darllenwch fwy am apelio ac am derfynau amser yn Canllaw i Apelio am adfer iawndal
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.