Cysylltu â ni

Cysylltu â ni

Mae`r Adran Gwaith a Phensiynau yn sefydliad mawr. Rydym am eich helpu chi i gysylltu â rhan briodol yr Adran er mwyn i ni allu delio â`ch ymholiad neu gŵynyn gyflym.

I wneud cais neu i ddod o hyd i wybodaeth am eich cais

Ar gyfer y rhan fwyaf o fudd-daliadau neu hawliau, bydd angen i chi gysylltu â`ch swyddfa leol yn gyntaf. Gallwch ddod o hyd i`w manylion cyswllt drwy chwilio am swyddfa leol.

I ddarganfod pwy sy`n delio â budd-dal neu hawliad

Defnyddiwch ein Cysylltiadau A-Y.

I gael rhifau llinellau cymorth a rhai cyfeiriadau

Defnyddiwch ein Cysylltiadau A-Y.

I gwyno neu apelio

Ewch i Cwynion ac apeliadau.

Cysylltiadau A-Y

Os ydych yn gwybod enw`r hawliad neu`r llinell gymorth y mae ei eisiau arnoch, defynddiwch y cysylltiadau A-Y i fynd ato`n uniongyrchol. Neu edrychwch drwy`r rhestr lawn isod.

brig y dudalen

Cyfreithwyr neu gynrychiolwyr cyfreithiol sy`n gweithredu ar ran rhywun arrall

Os ydych yn gyfreithiwr neu`n gynrychiolydd cyfreithiol sy`n gweithredu ar ran unigolyn, dylech ysgrifennu at y Ganolfan Bensiwn briodol, swyddfa briodol y Ganolfan Byd Gwaith, y Ganolfan Budd-dal Anabledd briodol neu swyddfa briodol yr Asiantaeth Cynnal Plant. Mae`n rhaid i chi gynnwys llythyr awdurdodi gan yr unigolyn er mwyn i`r wybodaeth gael ei dadlennu. Ewch i chwilio am swyddfa leol.

brig y dudalen

Cyfreithwyr sy`n anfon dogfennau at yr Ysgrifennydd Gwladol

Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau eraill i`r cyfeiriad hwn.

Department for Work and Pensions
SOL Litigation
Room 511
New Court
48 Carey Street
Llundain
WC2A 2LS

brig y dudalen

Adborth am y Wefan

Llenwch y ffurflen adborth os hoffech gynnig sylwadau am ran o wefan DWP neu am y wefan gyfan.

brig y dudalen

Gwybodaeth gyffredinol am yr Adran

Gallwch gael gwybodaeth gyffredinol am waith yr Adran Gwaith a Phensiynau gan ein Swyddfa Ymholiadau Cyhoeddus.

Ni all y swyddfa hon ddelio â chwestiynau am eich budd-dal neu hawliau.

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Ymholiadau Cyhoeddus drwy e-bost Yn anffodus ni all y Swyddfa Ymholiadau Cyhoeddus ddelio â negeseuon e-bost Cymraeg.
Darllenwch ein polisi e-bost cyn cysylltu â ni drwy e-bost.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.