Hygyrchedd – help i edrych ar y wefan hon
- Newid maint y testun ar y wefan hon
- Cyngor am hygyrchedd i ddefnyddwyr Apple Mac
- Ffyrdd eraill o ddefnyddio dogfennau PDF
Os hoffech newid lliw’r testun neu’r cefndir, newid y ffont neu dynnu’r delweddau, darllenwch newid golwg y wefan hon.
Newid maint y testun ar y wefan hon
I newid maint y testun:
- Dewiswch Text Size o’r ddewislen View. (Mewn rhai porwyr, efallai gelwir Text Size yn Text Zoom neu Zoom)
- Dewiswch y maint yr hoffech ei ddefnyddio o’r ddewislen Text Size.
Cyngor ar hygyrchedd i ddefnyddwyr Apple Mac
Mae system weithredu Apple Mac yn cynnwys sawl dewis o ran hygyrchedd, gan gynnwys ail-feintioli testun, llefaru testun, a dewisiadau amgen bysellfwrdd ar gyfer ffwythiannau’r llygoden.
Ewch i adran hygyrchedd gwefan Apple.
Ffyrdd eraill o ddefnyddio dogfennau PDF
Gallwch chi lawrlwytho dogfennau Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) gan ddefnyddio Adobe Reader – sydd ar gael am ddim.
Weithiau, caiff dogfennau PDF eu marcio gyda’r eicon hwn
.
Os nad yw’ch meddalwedd darllen sgrin (er enghraifft porwr gwe sain) yn gydnaws ag Adobe Reader, mae Adobe yn cynnig offeryn ar-lein am ddim i drosi cynnwys ffeiliau PDF i destun – fel y gall y rhan fwyaf o gymwysiadau darllen sgrin eu deall.