Amdanom Ni

Am y wefan hon

Mae gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cynnig gwybodaeth am fudd-daliadau a gwasanaethau. Dysgwch am yr help y gallech ei dderbyn, ac am sut i wneud cais am fudd-daliadau.

Ar wefan DWP, dewch o hyd i:

Am ragor o wybodaeth am yr hyn y cewch weld ar y wefan hon, ewch i fap y safle.

Os ydych yn cynghori ar wasanaethau a budd-daliadau DWP, ewch i adran y cynghorwyr.
Am wybodaeth am wasanaethau yr ydym yn eu cynnig i gyflogwyr, ewch i adran y cyflogwyr.

brig y dudalen

Gwefannau eraill DWP

Oedran gweithio

Y Ganolfan Byd Gwaith - help wrth ddod o hyd i swyddi a gwybodaeth am fudd-daliadau, i bobl o oedran gweithio, gan gynnwys offeryn chwilio am swyddi sydd â thros 400,000 o swyddi gwag.
Ewch i wefan Y Ganolfan Byd Gwaith.

Worktrain - yn galluogi chwilio am swyddi, hyfforddiant, dysgu a phroffiliau gyrfa, a gwybodaeth gysylltiedig.
Ewch i wefan Worktrain.

Y Fargen Newydd - yn rhoi i bobl sy'n hawlio budd-daliadau y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i chwilio am waith, i ddod o hyd i gyfleoedd am hyfforddiant ac i baratoi ar gyfer gweithio.
Ewch i wefan Y Fargen Newydd.

Teuluoedd a phlant

Yr Asiantaeth Cynnal Plant - gwybodaeth am y modd y bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn asesu, yn casglu ac yn talu cynhaliaeth cynnal plant, gan gynnwys cyfrifiannell cynhaliaeth plant.
Ewch i wefan yr Asiantaeth Cynnal Plant .

Pobl anabl a gofalwyr
Am wybodaeth ar draws y llywodraeth am feysydd fel cyflogaeth, iechyd ac addysg, yn ogystal â chyngor ar gymorth ariannol, byw'n annibynnol a hawliau, ewch i'r rhan i bobl anabl a gofalwyr ar wefan Directgov (nid yw'n wefan DWP).

Am wybodaeth am ystod o fudd-daliadau a gwasanaethau i bobl sy'n sâl neu sydd ag anabledd, ewch i'r rhan i bobl anabl a gofalwyr ar wefan DWP .

Am wybodaeth am bolisi hawliau pobl anabl a gwybodaeth am ddeddfwriaeth anabledd y DU, ewch i wefan disability.gov.uk.

Pensiynau ac ymddeol

Y Gwasanaeth Pensiwn - yn rhoi gwybodaeth ddiduedd gan Lywodraeth y DU am bensiynau'r wladwriaeth a phensiynau preifat, p'un a ydych wedi ymddeol, ar fin ymddeol neu'n cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad ymlaen llaw. Mae'n cynnwys canllaw ymarferol i gefnogaeth gan wahanol rannau o'r llywodraeth i bobl sydd wedi ymddeol (Canllaw'r Pensiynwr).
Ewch i wefan Y Gwasanaeth Pensiwn.

Pensionguide - yn rhoi gwybodaeth ddiduedd gan Lywodraeth y DU am bensiynau. Hefyd, gallwch argraffu neu archebu'n canllawiau rhagarweiniol am ddim.
Ewch i wefan Pensionguide.

Ydych chi dros 50 oed? - canllaw ymarferol i'r cyngor, y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy Lywodraeth y DU a sefydliadau gwirfoddol, i bobl 50 oed a hŷn.
Ewch i wefan Ydych chi dros 50 oed?.

Age Positive - gwybodaeth am ymgyrch Age Positive y Llywodraeth i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran ac i hyrwyddo amrywiaeth oedran yn y gweithle.
Ewch i wefan Age Positive.

Targedu lladron Budd-daliadau - gwybodaeth am ymgyrch Targedu lladron Budd-daliadau'r Llywodraeth ac am weithgarwch ehangach DWP yn erbyn twyll budd-daliadau. Hefyd, gallwch roi gwybod am bobl yr ydych yn eu hamau o dwyll budd-daliadau.
Ewch i wefan Targedu lladron Budd-daliadau.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.