Yr Arglwydd McKenzie o Luton
Is-ysgrifennydd Seneddol (ty'r Arglwyddi)
Penodwyd yr Arglwydd Bill McKenzie fel Arglwydd Gweinidog yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 8 Ionawr 2007.
Daeth yn gymar gydol oes ym mis Gorffennaf 2004, ac yn ystod mis Mai 2005 daeth yn Llefarydd y Llywodraeth yn Nhŷ’r Arglwyddi ar gyfer y Trysorlys a’r Chwip ar gyfer yr Adran Masnach a Diwydiant. Roedd yn ymgynghorydd i dîm Trysorlys yr Wrthblaid i Lafur am nifer o flynyddoedd, ac roedd yn aelod o’r Pwyllgor Adolygu Treth Cymdeithas Fabian gwreiddiol.
Roedd yr Arglwydd Mackenzie yn aelod etholedig Cyngor Bwrdeistref Luton rhwng 1976 a 1992 a rhwng 1999 a 2005. Roedd yn Arweinydd y Cyngor tan fis Mai 2003 ac ymgeisiodd yn Ne Luton dros Lafur yn Etholiadau Cyffredinol yn 1987 a 1992 . Cafodd sawl rôl yn ystod ei amser yn y Cyngor, yn arbennig swyddi yn ymwneud â chyllid llywodraeth leol. Roedd hefyd yn Gadeirydd Maes Awyr Llundain Luton.
Ganwyd yr Arglwydd Mckenzie yn 1946, a dechreuodd ei yrfa fel cyfrifydd yn 1968 ar ôl iddo ymuno â Martin Rata a Phartneriaid fel clerc erthyglau. Symudodd i Price Waterhouse yn 1973, lle ddaeth yn bartner. Gweithiodd iddynt mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Llundain, Hong Kong a Fietnam hyd at 1998.
Mae’r Arglwydd McKenzie yn briod ac yn byw yn Luton. Mae’n noddwr sawl grp celfyddydol.