Amdanom Ni

James Plaskitt

Is-ysgrifennydd Seneddol (tŷ'r cyffredin) James Plaskitt

Etholwyd James Plaskitt, AS dros Warwick a Leamington, am y tro cyntaf ym 1997. Dyma'i benodiad gweinidogol cyntaf. Bu'n gwasanaethu ar Bwyllgor Dethol tŷ'r cyffredin ar y Trysorlys ers 1999, ac mae'n aelod o'r Grwpiau Hollbleidiol ar Ddylunio ac Arloesedd, Anabledd a Moderneiddio tŷ'r cyffredin.

Mae hefyd yn aelod o Bwyllgorau Adrannol y Blaid Lafur ar gyfer y Trysorlys, yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac ar Faterion Cyfreithiol a Chyfansoddiadol.

Yn y gorffennol, bu'n gwasanaethu ar Gyngor Sir Swydd Rhydychen rhwng 1985 a 1990, pan ddaeth yn Arweinydd y grŵp Llafur. Gweithiodd yn y swydd honno tan 1996.

Cyn hynny, bu'n darlithio mewn gwleidyddiaeth yng Ngholeg yr Iesu yn Rhydychen, ar ôl addysgu am bedair blynedd ym Mhrifysgol Brunel.

Fe'i ganwyd yn Grimsby ym 1954, a bu'n byw yn Leamington Spa er 1996.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.