Amdanom Ni

Anne McGuire

Is-ysgrifennydd Seneddol (Pobl Anabl) Anne McGuire

Etholwyd Anne McGuire, AS dros Stirling, i Dŵ’r Cyffredin ym mis Mai 1997.

Roedd hi’n Ysgrifennydd Preifat Seneddol i Ysgrifennydd Gwladol yr Alban o fis Tachwedd 1997 hyd fis Gorffennaf 1998. Ym mis Gorffennaf 1998, daeth yn Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth, ac fe’i penodwyd yn Arglwydd Gomisiynydd i’r Trysorlys ym mis Mehefin 2001.

Ym mis Mehefin 2002 daeth yn Is-ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa’r Alban. Ar ôl ymgorffori Swyddfa’r Alban i’r Adran newydd dros Faterion Cyfansoddiadol, fe’i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr adran honno, â chyfrifoldeb dros yr Alban.

Bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyngor Sefydliadau Gwirfoddol yr Alban. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Banel y Plant ac yn Amddiffynnydd Plant, a byddai`n cael ei galw i mewn gan y Paneli neu’r Siryfion pan roedd angen amddiffyn buddion y plentyn ymhellach. Mae hi hefyd yn Is-lywydd Cyngor Cyfnewid Ieuenctid y Gymanwlad. Bu’n uwch aelod o Uwch Bwyllgor yr Alban y Blaid Lafur ac yn gadeirydd y blaid ym 1992/93.

Fe’i ganwyd ym 1949, mae hi’n briod ac mae ganddi ddau o blant wedi gadael cartref, ac mae hi wedi bod yn byw yn Cumbernauld er 1972.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.