Amdanom Ni

Amrywiaeth a chydraddoldeb

Mae`r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymroi i ddarparu gwasanaethau sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal. Fel cyflogwr, rydym wedi ymroi i gydraddoldeb ac i werthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu. Ein nod yw sicrhau y caiff yr ymrwymiadau hyn, a atgyfnerthir gan ein Gwerthoedd, eu hymgorffori yn ein harferion gwaith o ddydd i ddydd gyda'n holl gwsmeriaid, ein cydweithwyr a'n partneriaid.

brig y dudalen

Cynlluniau cydraddoldeb

Ar 1 Rhagfyr 2006, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei chynlluniau cydraddoldeb anabledd a rhyw cyntaf gydag adroddiad blynyddol ar gynnydd ein cynllun cydraddoldeb hiliol. I groesawu pob agwedd ar amrywiaeth a chydraddoldeb, rydym yn cynnwys ein hymrwymiad i oedran, tueddfryd rhywiol a chrefydd neu gred.

I'n staff

Rydym o'r farn ei bod yn bwysig y gall ein holl bobl gyfrannu at gyflawni amcanion yr Adran. I hyrwyddo hyn, mae gan yr Adran ystod o grwpiau rhwydweithio i staff ar gyfer oedran, anabledd, rhyw, tueddfryd rhywiol a chydbwysedd gwaith a bywyd. Mae gan bob grŵp uwch reolwr yn hyrwyddwr.

Mae'r Adran yn darparu ymwybyddiaeth am faterion amrywiaeth i'w staff drwy gynnyrch dysgu a datblygu, fel y pecyn Amrywiaeth, sy'n ymdrin â chyfle cyfartal yn ogystal â'r holl strandiau yn ymwneud ag amrywiaeth.

Mae'r Adran wedi ymroi i godi ymwybyddiaeth am faterion amrywiaeth. Er enghraifft, fel rhan o'r ymdrech hon, mae`r Adran:

brig y dudalen

I'n cwsmeriaid

Mae'r Adran wedi ymroi i gynnig y gwasanaethau gorau posibl i'w holl gwsmeriaid, gan adlewyrchu eu gofynion amrywiol. Mae Deddf (Diwygio) Cysylltiadau Hiliol 2000 a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn rhoi cyfrifoldebau penodol ar yr Adran fel awdurdod cyhoeddus i archwilio'i holl swyddogaethau am effaith posibl hil ac anabledd yn ôl eu trefn, ac i sicrhau ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb.

brig y dudalen

Wrth lunio polisi

Mae'r Adran yn ymgynghori'n eang â grwpiau diddordeb ar bob menter sylweddol newydd, er enghraifft â chymunedau ethnig lleiafrifol mewn meysydd polisi sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar y cymunedau hynny. Mae'r Adran yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn ymarferion ymgynghori ar draws y Llywodraeth, er enghraifft ar y ddeddfwriaeth anabledd a ddaeth i rym ym mis Hydref 2004.

Mae Deddf (Diwygio) Cysylltiadau Hiliol 2000 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i:

Mae'r adroddiad Gwireddu Cydraddoldeb yn yr Adran Gwaith a Phensiynau 2005 i 2008 yn rhoi manylion am sut gynnydd y mae'r Adran yn ei wneud o ran rhoi'r Ddeddf ar waith.

Daeth Deddf Cydnabod Rhyw 2004 i rym ym mis Ebrill 2005. Sefydlodd y Ddeddf Banel Cydnabod Rhyw sydd â`r pŵer i benderfynu ar geisiadau gan bobl drawsrywiol sy'n ceisio cydnabyddiaeth gyfreithiol yn eu rhyw newydd. Am ragor o wybodaeth neu am becyn cais, ewch i wefan y Panel Cydnabod Rhyw.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.