Amdanom Ni

Pennaeth yr Adran

Sir Leigh Lewis KCB

Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Gwaith a Phensiynau Leigh Lewis

Ar ôl graddio mewn Astudiaethau Ysbaenaidd o Brifysgol Lerpwl, ymunodd Leigh Lewis â’r Adran Gyflogaeth gynt fel Hyfforddai Gweinyddol ym mis Medi 1973. Bu mewn sawl swydd ddatblygu, gan gynnwys Pennaeth yr Is-adran Polisi Perthnasoedd Diwydiannol, cyn cael ei benodi ym 1984 yn Brif Ysgrifennydd Preifat i Arglwydd Young, Gweinidog heb Bortffolio ac Ysgrifennydd Gwladol. Daeth yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gwasanaeth Budd-daliadau Diweithdra ym 1986.

Ym 1988 ymunodd Leigh Lewis â Cable and Wireless ccc yn gyfarwyddwr personél y grŵp. Ar ôl dychwelyd i’r Adran Gyflogaeth ym 1991, daeth yn Gyfarwyddwr yr Is-adran Ryngwladol ac wedyn, ym 1994, yn Gyfarwyddwr Cyllid. Cadwodd y swydd honno pan unodd yr Adran Addysg a grŵp yr Adran Gyflogaeth ym mis Gorffennaf 1995.

Penodwyd Leigh Lewis yn Brif Weithredwr y Gwasanaeth Cyflogaeth ar ôl cystadleuaeth agored ym mis Ionawr 1997. Ym mis Ionawr 2001, ar ôl cystadleuaeth agored arall, fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr y Ganolfan Byd Gwaith, sef busnes newydd i’r Adran Gwaith a Phensiynau. O fis Ebrill 2002 ymlaen, daeth y Ganolfan Byd Gwaith â`r Gwasanaeth Cyflogaeth a’r rhannau hynny o’r Asiantaeth Budd-daliadau a oedd yn delio â chwsmeriaid o oedran gweithio ynghyd yn un sefydliad ag un ffocws gwaith.

Ym mis Chwefror 2003, penodwyd Leigh Lewis i’r Swyddfa Gartref yn Ysgrifennydd Parhaol dros Drosedd, yr Heddlu, Gwrthderfysgaeth a Chyflwyno. Fe’i penodwyd i’w swydd bresennol ym mis Tachwedd 2005.

Mae Leigh Lewis yn briod ac mae ganddo ddau fab. Y tu allan i’r gwaith, mae ei ddiddordebau’n cynnwys ei deulu, casglu cardiau ffôn a gwylio clwb pêl-droed Watford.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.