Amdanom Ni

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA)

Mae’r Adran yn gyfrifol am y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n rhoi Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (DDA 2005) ar waith. Mae hyn yn adeiladu ar ddeddfwriaeth gyfredol ar hawliau sifil, yn bennaf Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Mae’r rhan fwyaf o ddarpariaethau DDA 2005 yn dod i rym naill ai ar 5 Rhagfyr 2005 neu ar 4 Rhagfyr 2006.

I ddarganfod sut mae rhai o ddarpariaethau DDA 2005 yn ehangu ar ddeddfwriaeth gynharach, darllenwch ein ffeithlenni manwl.

Darllenwch yr adroddiad gan y grŵp Adolygu ar Rannau Cyffredin a ystyriodd newidiadau sy`n ymwneud ag anabledd i rannau cyffredin adeiladau preswyl a rentir. Mae`r Llywodraeth yn ystyried eu hadroddiad,(560 KB) PDF sy`n cynnwys ymchwil yn Atodiad 10.

Darllenwch fwy am sut mae’r DDA yn effeithio ar fusnesau bach a chanolig eu maint yn ein hadran Addasu er Gwell Busnes.

Cewch wybodaeth gyffredinol am Eich hawliau a’r DDA ar wefan Directgov.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.