Am yr Adran
Mae`r Adran Gwaith a Phensiynau yma i hyrwyddo cyfleoedd ac annibyniaeth i bawb drwy wasanaethau modern sy`n canolbwyntio ar y cwsmer.
Rydym yn helpu pobl i gyflawni eu potensial drwy gyflogaeth, er mwyn iddynt allu cynnal eu plant a gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad sicr.
Ein nodau
Rydym am i blant gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, gan gael eu magu mewn cartrefi diogel a datblygu sgiliau at y dyfodol. Un o'n hamcanion yw rhoi terfyn ar dlodi ymhlith plant erbyn 2020 ac rydym yn cydweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth i gyflawni hyn.
Rydym yn hyrwyddo gwaith fel y ffurf orau ar les, gan helpu mwy o bobl i symud i mewn i waith a chefnogi'r rhai na allant weithio. Gallwch ddarllen mwy yn Egwyddorion Diwygio Lles.
Mae helpu pobl i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad hefyd yn darged allweddol ac, wedi iddynt ymddeol, i gael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Rydym hefyd yn gweithio i wella hawliau a chyfleoedd i bobl anabl. Mae’r Swyddfa Materion Anabledd yn ganolbwynt o fewn y llywodraeth i gydlynu polisi anabledd ar draws pob adran.
Mae Swyddfa Cydraddolebau’r Llywodraeth, sydd wedi cael ei lleoli yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn gyfrifol am strategaeth a blaenoriaethau cyffredinol y Llywodraeth o ran materion cydraddoldeb
Bydd bron pawb ym Mhrydain Fawr yn delio â'r Adran neu un o'i wyth busnes rhywbryd yn ystod eu bywydau.
Mae hyn i gyd yn rhan o adeiladu cymdeithas deg a chynhwysol.
I weld sut rydym yn perfformio yn erbyn y targedau ar gyfer cyflawni'n hamcanion, ewch i'r Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus a'r Cytundeb Cyflwyno Gwasanaeth. I weld sut rydym yn bwriadu mesur cynnydd yn erbyn ein targed effeithlonrwydd, ewch i'r Nodyn Technegol ar Effeithlonrwydd.
Mae`r Fframwaith Adrannol yn nodi sut caiff DWP ei threfnu a'i rheoli.
Ein prif grwpiau cwsmeriaid
Ein prif grwpiau cwsmeriaid yw:
- plant
- pobl o oedran gweithio
- pensiynwyr
- pobl anabl a'u gofalwyr.
Rydym yn dylunio ac yn monitro'n strategaethau drwy ddau grŵp o gleientiaid ar gyfer:
- gwaith, plant a phobl anabl
- pensiynau.
Ein busnesau
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn darparu gwasanaeth integredig i bobl o oedran gweithio. Mae'n cynnig help i bobl sy'n ystyried symud i mewn i waith a chymorth i'r rheini na allant weithio. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i helpu cyflogwyr lenwi eu swyddi gwag yn gyflym.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.jobcentreplus.gov.uk/jcpwelsh/
Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr
Sefydlwyd y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr ym mis Ebrill 2008 a ffurfiwyd allan o ddwy Asiantaeth bresennol - Y Gwasanaeth Pensiwn a‘r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwr. Byddant yn parhau i weithredu o dan eu henwau presennol a bydd eu cwsmeriaid yn parhau i gael y gwasanaethau oddi wrthynt hwy fel y maent yn cael eisoes.
- Maer Gwasanaeth Pensiwn yn wasanaeth penodedig ar gyfer pensiynwyr y presennol a'r dyfodol. Mae'n rhoi cymorth ariannol y wladwriaeth i fwy nag 11 miliwn o bensiynwyr ar lefel genedlaethol a lleol, ac mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae hefyd yn helpu pobl i gynllunio a darparu ar gyfer ymddeol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ygwasanaethpensiwn.gov.uk/
- Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwr yn cefnogi pobl anabl a'u gofalwyr, p'un a ydynt yn gweithio ai peidio. Mae'n gyfrifol am ddosbarthu Lwfans Gweini, Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gofalwr.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.dwp.gov.uk/welsh/dcs/
Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant
Mae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn gyfrifol am gynnal y system cynnal plant. Mae'n asesu, yn casglu ac yn talu Cynhaliaeth Cynnal Plant, gan sicrhau y bydd plant nad yw eu rhieni yn byw gyda'i gilydd yn cael cymorth ariannol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.asiantaethcynnalplant.gov.uk
Mae'r Gwasanaeth Rhent
Mae'r Gwasanaeth Rhent yn darparu gwasanaeth prisio rhenti at ddibenion budd-dal tai, prisiadau rhenti teg ar gyfer landlordiaid a thenantiaid a chyngor i gwsmeriaid yn y sector cyhoeddus a`r sector preifat ar y materion hyn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.therentservice.gov.uk
Rheoli Dyled
Mae'r Gwasanaeth Rheoli Dyled yn darparu gwasanaeth rheoli dyledion i'r Adran, o gyfrifo gordaliadau i adfer dyledion.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.dwp.gov.uk/debtmanagement/
Cyrff cyhoeddus a noddir gan DWP
Mae’r Adran yn noddi ystod eang o gyrff i gyflawni ei hamcanion. Mae’r rhain yn cynnwys Cyrff Cyhoeddus Anadrannol gweithredol, ymgynghorol a thribiwnlys, corfforaethau cyhoeddus, yn ogystal â chyrff eraill hyd braich a thymor byr.