Ydy’r gwasanaeth yn ddiogel?
Mae diogelwch yn bwysig iawn. Rydym yn darparu diogelwch drwy:
- god adnabod defnyddiwr (ID y Defnyddiwr) a chyfrinair
- cysylltiadau diogel – i warchod gwybodaeth
- encriptio (rhoi gwybodaeth mewn cod fel na dim ond rhai pobl all gael mynediad ato).
ID y Defnyddiwr a chyfrinair
Bydd y gwasanaeth yn rhoi cod adnabod defnyddiwr (ID y Defnyddiwr) mai dim ond chi fydd yn ei wybod. Byddwch hefyd yn dewis eich cyfrinair eich hun. Os ydych eisoes wedi cofrestru am wasanaeth ar lein arall y Llywodraeth gallwch ddefnyddio yr ID y Defnyddiwr sydd gennych yn barod.
Ni ddylech ddatgelu eich ID y Defnyddiwr a chyfrinair wrth unrhyw un. Dim ond rhywun sydd yn gwybod beth yw eich ID y Defnyddiwr a chyfrinair all gael mynediad i’r wybodaeth rydych yn ei ddarparu. Os ydych yn eu anghofio, ni fyddwn yn gallu dweud wrthych beth ydynt.
Gwarchod eich gwybodaeth
Mae’r holl wybodaeth rydych yn ei anfon a’i derbyn yn mynd drwy gysylltiad diogel rhwng eich porwr a’r serfiwr. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r wybodaeth yn cael ei newid rhwng eich gyfrifiadur a’n serfiwr. Gallwch ddweud eich bod yn defnyddio cyswllt diogel o’r sgrîn sydd yn agor pan fyddwch yn dechrau y gwasanaeth oherwydd mae clo yn cael ei arddangos ar far statws eich porwr.
Mae’r wybodaeth rydych yn ei anfon a’i dderbyn yn cael ei encriptio (rhoi mewn cod) fel na dim ond chi a’r Adran Gwaith a Phensiynau all ei dderbyn.
Os oes gan bobl eraill fynediad i’r cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio, dylech allgofnodi a chau pob ffenestr porwr cyn gadael y cyfrifiadur, er mwyn sicrhau bod eich manylion yn aros yn ddiogel.
Terfyn amser
Os byddwch yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r cyfrifiadur am fwy na 30 munud tra rydych wedi mewngofnodi i’r gwasanaeth, bydd y gwasanaeth yn eich allgofnodi ar gyfer rhesymau diogelwch.
Cyn i chi ddechrau, darllenwch ein polisi preifatrwydd a dewch o hyd i’r meddalwedd sydd ei hangen arnoch.
Mae’r gwasanaeth yn agor mewn ffenestr newydd heb ddewislen porwr.