Beth rwyf ei angen?
Mae’r dudalen hon yn egluro:
- pa feddalwedd rydych ei angen i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
- sut i argraffu eich trosglwyddiad, a
- sut mae’r gwasanaeth yn defnyddio cwcis.
Bydd y gwasanaeth yn dweud wrthych pa wybodaeth bersonol sydd ei hangen arnoch ar ôl i chi logio ymlaen a dewid budd-dal.
Dylech droi i ffwrdd unrhyw feddalwedd i atal pop-up. Cyfeiriwch at y cyfarwyddiadau neu’r ddewislen help ar eich meddalwedd atal pop-up os bydd angen help arnoch i’w diffodd.
Ar gyfer eich diogelwch, mae’n rhaid i’ch porwr ddefnyddio cyswllt 128-bit Secure Socket Layer (SSL). Os na all eich porwr ddefnyddio SSL efallai bydd angen i chi ei ddiweddaru.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar unrhyw gyfrifiadur addas – nid oes yn rhaid iddo fod yn gyfrifiadur eich hun. Nid oes angen cyfeiriad e‑bost arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn gallwch ddefnyddio un o’r ffyrdd eraill rydym yn ei ddarparu ar gyfer gwneud cais neu hawliad.
Systemau gweithredu a phorwyr
Ar hyn o bryd nid yw’r gwasanaeth ar gael drwy ddefnyddio Macs neu systemau eraill sy’n seiliedig ar Unix er eich bod efallai yn gallu rhoi gwybodaeth i mewn.
Mae ein gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r systemau gweithredu a phorwyr canlynol:
Microsoft Windows 98:
- Internet Explorer fersiynau 5.0.1, 5.5 a 6.0
- Netscape 7.2
Microsoft Windows ME
- Internet Explorer fersiwn 5.5 a 6.0
- Netscape 7.2
Microsoft Windows 2000
- Internet Explorer fersiwn 5.0.1, 5.5 a 6.0
- Netscape 7.2
- Firefox 1.0.3
- Mozilla 1.7.7
Microsoft Windows XP
- Internet Explorer 6.0
- Netscape 7.2
- Firefox1.0.3
- Mozilla 1.7.7
I argraffu copi o’ch trosglwyddiad
I argraffu copi o’ch trosglwyddiad bydd angen i chi ddefnyddio Adobe Reader 6
neu uwch – sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Os ydych yn defnyddio meddalwedd
darllen sgrîn neu borwr rhyngrwyd sydd â sain, mae Adobe yn darparu
offer ar lein yn rhad ac am ddim sydd yn troi dogfennau PDF i destun.
Cwcis
Mae’n rhaid i’ch porwr gael cwcis yn weithredol. Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio cwcis sesiwn i wella eich profiad o’r gwasanaeth. Nid yw cwcis sesiwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ac maent yn cael eu dileu pan fyddwch yn gadael y safle.
Cyn i chi ddechrau, darllenwch ein polisi preifatrwydd.
Mae’r gwasanaeth yn agor mewn ffenestr newydd heb ddewislen porwr.