Gwasanaethau a budd-daliadau ar lein

Cychwyn yma | gwybodaeth am help

Polisi preifatrwydd

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu gwybodaeth ar gyfer delio â nawdd cymdeithasol, cynnal plant, materion yn ymwneud â niwed trwy frechiad, cyflogaeth a hyfforddiant, polisi pensiynau preifat, cynllunio ar gyfer ymddeol a’r Cynllun Cymorth Ariannol. Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn dibynnu ar y rheswm dros eich busnes gyda ni, ond fe allwn ddefnyddio’r wybodaeth ar gyfer unrhyw un o’r dibenion hyn.

Gallwn wirio gwybodaeth amdanoch yn erbyn gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y cawn wybodaeth amdanoch gan bobl eraill a rhai sefydliadau eraill. Efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth i rai sefydliadau eraill, fel mae’r gyfraith yn caniatáu er mwyn:

Mae’r sefydliadau eraill hyn yn cynnwys adrannau eraill o’r llywodraeth, awdurdodau lleol, a chyrff sector preifat fel banciau a sefydliadau all roi benthyg arian i chi. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch i unrhyw un y tu allan i’r adran os nad yw’r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r Rheolydd Data ar gyfer y Ddeddf Diogelu Data.

Cwcis

Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio cwcis sesiwn i wella eich profiad o’r gwasanaeth. Nid yw cwcis sesiwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac maent yn cael eu dileu fan fyddwch yn gadael y safle. Ni ydym fel arfer yn defnyddio cwcis ar ein gwefan.