Gwasanaethau a budd-daliadau ar lein

Cychwyn yma | gwybodaeth am help

Ynglyn â’r Adran Gwaith a Phensiynau

Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) nifer o fusnesau yn cynnwys:

Y Ganolfan Byd Gwaith:

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn darparu gwasanaeth integredig i bobl o oedran gweithio. Mae’n cynnig help i bobl sy’n ystyried symud i mewn i waith a chymorth i’r rheini na allant weithio. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i helpu cyflogwyr lenwi eu swyddi gwag yn gyflym.

Y Gwasanaeth Pensiwn:

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn wasanaeth ymrwymedig ar gyfer pensiynwyr y presennol a’r dyfodol. Mae’n rhoi cymorth ariannol y wladwriaeth i fwy nag 11 miliwn o bensiynwyr ac fe’i darperir yn genedlaethol ac yn lleol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae hefyd yn helpu pobl i gynllunio a darparu ar gyfer ymddeol.

Yr Asiantaeth Cynnal Plant:

Mae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn gyfrifol am redeg y system cynnal plant. Mae’n asesu, yn casglu ac yn talu Cynhaliaeth Cynnal Plant, gan sicrhau bod plant nad yw eu rhieni yn byw gyda’i gilydd yn cael cymorth ariannol.

Y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr:

Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn cynorthwyo pobl anabl a’u gofalwyr, p’un a ydynt yn gweithio ai peidio. Mae’n gyfrifol am ddarparu Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gofalwr.