Gwasanaethau a budd-daliadau ar lein  

  Cychwyn yma

Ynglyn â’r gwasanaeth hwn

Darperir y gwasanaeth hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Defnyddiwch y gwasanaeth i ddechrau cais neu hawliad am unrhyw un o’r gwasanaethau, budd-daliadau, lwfansau neu bensiynau hyn. Ni allwn dderbyn ceisiadau neu hawliadau yn Gymraeg gan bobl sydd yn byw y tu allan i Gymru.

Dylech ddarllen y wybodaeth cydnawsedd porwr pwysig cyn i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Ailhawlio ar ôl llai na 26 wythnos? Os daeth eich Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith i ben llai na 26 wythnos yn ôl, gall fod yn gyflymach i wneud cais dros y ffôn. Ffoniwch 0800 012 1888 (8.00am i 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Os oes gennych nam ar eich lleferydd neu’ch clyw, y rhif ffôn testun yw 0800 0234 888. Nid yw ffonau testun yn derbyn negeseuon testun o ffonau symudol.

Ni fydd y gwasanaeth hwn ar gael unrhyw ddydd o 01.00-01.30 oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hwn ei beri.

Oedran gweithio
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd
Pobl anabl a gofalwyr
  • Lwfans Byw i'r Anabl (oedolyn)
  • Lwfans Byw i'r Anabl (plentyn)
  • Lwfans Gweini
Cynhaliaeth plant
  • Cynhaliaeth plant
Pensiynau ac ymddeoliad
  • Pensiwn y Wladwriaeth (DU)
  • Pensiwn y Wladwriaeth (tramor)

 

Cyn i chi ddechrau, darllenwch ein polisi preifatrwydd i ddarganfod beth rydych ei angen.

Mae’r gwasanaeth yn agor mewn ffenestr newydd heb ddewislen porwr.