Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation

Cyhoeddiadau


Adroddiadau eithriad

Mae'r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod pob rhan o'r Adran yn anrhydeddu'r ymrwymiadau a nodir yng Nghynllun Iaith Gymraeg yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gorwedd gyda'r Ysgrifennydd Parhaol fel Pennaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Cytunwyd gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg y bydd adroddiad cydymffurfiaeth yn cael ei gyflwyno’n flynyddol i’r Ysgrifennydd Parhaol, gyda chopi yn cael ei anfon i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn cael ei gyhoeddi ar brif wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae'r adroddiad hwn, a elwir yn "Adroddiad Eithriad" yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle, am ba reswm bynnag, ni fu'n bosib bodloni'r safonau ac ymrwymiadau Cynllun Iaith Gymraeg yr Adran.

Yn ogystal â disgrifio'r meysydd o ddiffyg cydymffurfio, bydd yr adroddiad i’r Ysgrifennydd Parhaol yn cynnwys y rhesymau pam bod yr achosion hyn wedi digwydd, ac yn gosod allan y mesurau a gymerwyd neu a gynigiwyd i atal ailadrodd y broblem.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.