Diogelu Data – gwneud cais am wybodaeth rydym yn ei gadw amdanoch
Mae’r Ddeddf Diogelu Data 1998 yn rhoi’r hawl i chi wybod pa wybodaeth sy’n cael ei gadw amdanoch.
Mae ein Polisi Preifatrwydd yn egluro sut bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth rydym yn ei gasglu amdanoch.
Mae gennych hawl i gael copi o wybodaeth sy’n cael ei gadw amdanoch gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Sut i wneud cais am gopi o wybodaeth sy’n cael ei gadw amdanoch
Os hoffech gael copi o wybodaeth bersonol sy’n cael ei gadw amdanoch gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, anfonwch neu ewch a’ch cais yn ysgrifenedig i’ch swyddfa Adran Gwaith a Phensiynau agosaf (fel arfer swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith). Peidiwch ag anfon eich cais drwy e-bost.
Neu ysgrifennwch a dywedwch wrthym eich:
- Enw llawn
- Cyfeiriad llawn
- Dyddiad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Disgrifiad o’r wybodaeth rydych ei angen (er enghraifft cofnodion Lwfans Ceisio Gwaith).
Ni fydd tâl yn cael ei godi arnoch am y gwasanaeth hwn.
Yr amserlen ar gyfer ymateb
Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn caniatáu 40 o ddyddiau i’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu chi gyda’ch gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn dechrau o’r dyddiad rydym yn derbyn eich cais sy’n cynnwys digon o wybodaeth i ni allu eich adnabod chi a dod o hyd i’ch gwybodaeth.
Fodd bynnag, rydym yn ceisio darparu’r wybodaeth hyn cyn gynted â phosibl o fewn yr amserlen hon.
Gwneud cais am wybodaeth ar ran trydydd parti
Os ydych yn gwneud cais am wybodaeth ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i chi ddarparu caniatâd ysgrifenedig wedi’i lofnodi gan y person hwnnw drwy ddefnyddio ffurflen caniatâd yr Adran Gwaith a Phensiynau, oni bai eich bod yn benodai swyddogol neu gyda Phŵer Atwrnai dros y person hwnnw.
Mae hyn yn cynnwys ceisiadau gan gyfreithwyr am wybodaeth am gwsmer, er enghraifft mewn achosion o anaf personol.
- Ffurflen caniatâd yr Adran Gwaith a Phensiynau – gwneud cais am wybodaeth bersonol am rywun arall (181KB) RTF
Mae’n rhaid i Ran E o’r ffurflen gael ei chwblhau gan y person rydych yn gofyn am wybodaeth amdanynt. Ni dderbynnir unrhyw ffurf arall o ganiatâd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Anfonwch neu ewch â’ch cais i’ch swyddfa Adran Gwaith a Phensiynau agosaf (fel arfer swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith). Peidiwch ag anfon eich cais drwy e-bost.
Ni chodi’r tâl arnoch am y gwasanaeth hwn.
Deall y wybodaeth a anfonwn atoch
Bydd y canllawiau canlynol eich helpu i ddeall unrhyw dalfyriadau neu dermau eraill a allai yn ymddangos yn y wybodaeth a anfonwn atoch:
- Talfyriadau corfforaethol yr Adran Gwaith a Phensiynau (96KB)
- Talfyriadau Lwfans Gofalwr (40KB)
- Talfyriadau Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr (125KB)
- System y Farchnad Lafur - arweiniad i'ch argraffiad Deddf Diogelu Data (1.7MB)
- System Gwybodaeth Cwsmeriaid - esboniad o'r wybodaeth a gedwir amdanoch chi (387KB)