Diwygio Pensiynau - 2010 ymlaen
Y Ddeddf Pensiynau 2007
Ym mis Gorffennaf 2007 fe wnaeth y Ddeddf Pensiynau ddeddfu am y diwygiadau i’r system Pensiwn y Wladwriaeth a osodwyd allan yn "Diogelwch mewn Ymddeoliad: tuag at system bensiynau newydd ". Creodd y Ddeddf yr Awdurdod Dosbarthu Cyfrifon Personol i gynghori ar gyflwyno cynllun newydd, cynllun cynilo ar gyfer pensiwn syml, isel ei gost.
Y Ddeddf Pensiynau 2008
Ym mis Tachwedd 2008 cyflwynodd y Ddeddf Pensiynau 2008 fesurau wedi’u hanelu at annog mwy o gynilo preifat. Roedd hyn yn cynnwys rhoi dyletswydd ar gyflogwyr i ymrestru pob gweithiwr cymwys yn awtomatig i gynllun pensiwn yn y gweithle (cyn belled nad ydynt yn y fath gynllun yn barod) a darparu isafswm o gyfraniad. Bydd y mwyafrif o fesurau yn y Ddeddf yn dod i rym o 2012. Mae’r Ddeddf yn ehangu cylch gwaith yr Awdurdod Darparu Cyfrifon Personol gan roi iddo’r pwerau i’w alluogi i sefydlu NEST (Ymddiriedolaeth Cynilo Cyflogaeth Genedlaethol).
Y Rhaglen Sicrhau Cynilion ar gyfer Ymddeoliad
Mae’r Rhaglen Sicrhau Cynilion ar gyfer Ymddeoliad yn gyfrifol am gyflenwi diwygiadau pensiynau yn y gweithle yn y Ddeddf Pensiynau 2008. Mae wedi ei wneud i fyny o dri chorff sydd â chyfrifoldeb ar y cyd am gyflenwi’r diwygiadau: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Rheoleiddiwr Pensiynau, a’r Awdurdod Darparu Cyfrifon Personol.
Adolygiad Dadreoli
Cafodd ymateb y Llywodraeth (311KB)
i ganlyniadau’r Adolygiad Dadreoli annibynnol ei gyhoeddi ar 22 Hydref 2007. Gosododd yr ymateb awgrymiadau am newid a gofyn barn. Daeth y cyfnod ymgynghoriad i ben ar 15 Tachwedd. Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad (91KB)
ei gyhoeddi ar 5 Rhagfyr 2007.
Cyhoeddwyd Ymgynghoriad ar rannu risg (2MB)
ar 5 Mehefin 2008.
Cyhoeddwyd Nodyn Gwybodaeth ar Rannu Risg i gyflogwyr sy’n ystyried gwneud newidiadau i gynlluniau pensiwn Buddion Penodol ar 30 Mawrth 2010.