Adrannau a chyrff y Llywodraeth
Cysylltiadau i adrannau a chyrff y Llywodraeth y mae eu gweithgareddau'n berthnasol i weithrediadau DWP.
Sylwer nad yw DWP yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau canlynol ac ni ddylid ystyried ein bod, drwy eu cysylltu, yn eu cefnogi mewn unrhyw fodd. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiol.
- Yr Adran Addysg (Saesneg) yn gyfrifol am wella’r ganolbwyntio ar bob agwedd o polisïau sy’n effeithio plant a phobl ifanc, fel rhan o nod y Llywodraeth o gyflenwi rhagoriaeth addysgiadol.
- Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (Saesneg)
- Adran Datblygiad Cymdeithasol Gogledd Iwerddon mae'r wefan hon yn cyfuno gwybodaeth am bob agwedd ar yr Adran Datblygiad Cymdeithasol a'i hasiantaethau yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys Nawdd Cymdeithasol, Cynnal Plant, Tai ac Adfywio Trefol.
- Yr Adran Iechyd (Saesneg) yn anelu i wella iechyd a lles pobl yn Lloegr. Gallwch ddod o hyd i’r diweddaraf ar waith yr Adran, yn ogystal ag arweiniad, cyhoeddiadau a pholisi iechyd a gofal cymdeithasol.
- Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol Ynys Manaw (Saesneg)
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Saesneg)
- Yr Archwilydd Achosion Annibynnol canolwyr annibynnol mewn cwynion am gamweinyddu ac ymchwiliadau'r CSA am drin achosion.
- Mae'r Asiantaeth Swyddfa Brisio (Saesneg) yn darparu gwasanaethu prisio rhent at ddibenion Budd-dal Tai, prisio rhent teg ar gyfer landlordiaid a thenantiaid a cyngor i gwsmeriaid a chyfranddeiliaid o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
- Businesslink (Saesneg) gwefan y Llywodraeth ar gyfer busnesau o bob maint, sy’n darparu cyngor a chymorth ar-lein a drwy ymgynghorwyr lleol.
- Caiff e-sgiliau y DU (Saesneg) ei drwyddedu gan y Llywodraeth a'i redeg gan gyflogwyr, a dyma lais cyflogwyr ar sgiliau a chystadleugarwch busnesau.
- Childcare Finder (Saesneg) gwybodaeth genedlaethol a lleol am ofal plant gan Brosiect Datblygu Systemau Gwybodaeth Gofal Plant, a ddatblygwyd i ategu mentrau O Fudd-dal i Waith a'r Strategaeth Gofal Plant Cenedlaethol.
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywioldeb a hawliau lles fel gwerthoedd sy’n diffinio ein cymdeithas ac yn annog ein holl sefydliadau i weithredu er budd pob unigolyn.
- Cyllid & Thollau EM yn amlinellu'r modd y mae'n gweinyddu treth incwm, credydau treth, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth refeniw petrol, treth etifeddu, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a threthi stamp.
- Directgov yr ystod mwyaf eang o wybodaeth a gwasanaethau’r llywodraeth ar-lein.
- Mae'r Gwasanaeth Adolygu Annibynnol (Saesneg) yn cynnal adolygiadau annibynnol ar gyfer cwsmeriaid anfodlon y gronfa gymdeithasol ddewisol.
- Mae'r Gwasanaeth Tribiwnlys (Saesneg) yn trefnu ac yn gwrando ar apeliadau am nawdd cymdeithasol, cynhaliaeth plant, niwed trwy frechiad, credyd treth a phenderfyniadau adfer iawndal.
- Gwefan y Cyngor Ymgynghorol ar Anafiadau Diwydiannol (Saesneg) sef corff statudol annibynnol a sefydlwyd i gynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â'r cynllun anafiadau diwydiannol.
- info4local (Saesneg) porth i awdurdodau lleol gael mynediad cyflym a rhwydd at wybodaeth y mae ei hangen arnynt ar wefannau adrannau'r Llywodraeth ganolog, asiantaethau a chyrff cyhoeddus.
- Llywodraeth Cynulliad Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru ac mae’n gyfrifol am nifer o faterion, yn cynnwys iechyd, addysg, datblygiad economaidd, diwylliant, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.
- Llywodraeth yr Alban (Saesneg) yw llywodraeth ddatganoledig Yr Alban ac mae’n gyfrifol am nifer o faterion, yn cynnwys iechyd, addysg, cyfiawnder, materion gwledig a thrafnidiaeth.
- Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd (Saesneg) gwybodaeth am waith yr Ombwdsmon sy’n ymchwilio i gwynion am achosion a gyfeiriwyd gan Aelodau Seneddol.
- Mae'r Ombwdsmon Pensiynau (Saesneg) yn ymchwilio i gwynion ac anghydfodau, ac yn penderfynu arnynt, am y modd y caiff cynlluniau pensiwn eu rhedeg. (Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sy'n delio â chwynion am werthiannau a marchnata cynlluniau pensiwn).
- Penodiadau cyhoeddus mae dros 800 o gyrff cyhoeddus a noddir gan Adrannau Llywodraeth y DU. Aelodau a benodir yn gyhoeddus sy'n eistedd ar fyrddau'r sefydliadau hyn. Cânt eu cynnwys mewn penderfyniadau sy'n datblygu, yn ffurfio neu'n cyflwyno polisïau'r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.
- Mae'r Pwyllgor Cynghori Nawdd Cymdeithasol (Saesneg) yn rhoi cyngor ar faterion y’u cyfeiriwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol neu’r Adran yng Ngogledd Iwerddon sydd â chyfrifoldeb dros Nawdd Cymdeithasol.
- Mae'r Pwyllgor Dethol Seneddol ar Waith a Phensiynau (Saesneg) gyda’r cyfrifoldeb o archwilio gwariant, polisi a gweinyddiaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau.
- Remploy Cyf (Saesneg) yw darparwr mwyaf rhaglen CAM AT WAITH y Llywodraeth (bydd y cyswllt hwn yn eich arwain at wefan Directgov). Mae'n cefnogi tua 9,000 o bobl anabl, ac mae dros 5,500 mewn ffatrïoedd a 3,300 gyda chyflogwyr prif-ffrwd.
- Mae'r Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth (Saesneg) yn gyfrifol am strategaeth gyffredinol y Llywodraeth ar gydraddoldeb yn ogystal â materion merched ym mhob rhan o Lywodraeth. Mae'r Adran yn noddi'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) a Chomisiwn Cenedlaethol y Merched (WNC).
- Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef swyddog annibynnol a benodir gan y Goron i oruchwylio Deddf Diogelu Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.