Y Darganfyddwr gwybodaeth mewn manylder
Mae'r darganfyddwr gwybodaeth yn dweud wrthych gyda phwy i gysylltu i gael gwybodaeth nad oedd wedi ei fwriadu ar gyfer y cyhoedd na rhanddeiliaid eraill yn y lle cyntaf, yn enwedig:
- gwybodaeth fewnol
- gwybodaeth sydd ond ar gael mewn ffurf argraffedig
- gwybodaeth sy'n cael ei ddal ar systemau TG mewnol fel mewnrwyd yr Adran Gwaith a Phensiynau neu serfiwr lleol.
Mae'r darganfyddwr gwybodaeth yn cwmpasu gwybodaeth o bob rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau, ei hasiantaethau a chyrff atodol. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus anadrannol (NDPBs) cysylltiedig gan fod angen iddynt hwy gynnal eu cynlluniau cyhoeddi eu hunain.
Gwybodaeth a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn darparu mynediad am ddim i'w gwybodaeth sydd wedi'i gyhoeddi ar y wefan hon ac mewn lleoedd eraill. Mae hyn yn cynnwys:
- taflenni
- llyfrynnau a chanllawiau i wasanaethau
- cyhoeddiadau polisi a chorfforaethol
- ymchwil, dadansoddi ac ystadegau
- dogfennau ymgynghori
- ffurflenni cais a chanllawiau cysylltiedig
- asesiadau effaith
- gwybodaeth arbenigol a thechnegol wedi ei anelu at ymarferwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill fel cyflogwyr.
Gallwch ddefnyddio'r Archif electronig i ddod o hyd i wybodaeth hŷn sydd wedi'i gyhoeddi ond sydd wedi cael ei dynnu o'r wefan.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth sydd wedi'i gyhoeddi o wefannau eraill yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy ddefnyddio'r dudalen cysylltiadau ar y wefan hon.
Cefndir cyfreithiol
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (adran 19) yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn unol â'u model Cynllun Cyhoeddi (52KB)
. Bwriad hyn yw galluogi'r cyhoedd i gael mynediad at ystod eang o wybodaeth heb orfod gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth penodol.
Gwybodaeth sydd wedi'i eithrio
Nid oes angen i'r wybodaeth ganlynol fod ar gael gennym.
Gwybodaeth ble mae datgelu wedi ei eithrio o dan ddeddf neu wedi'i eithrio o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae gwybodaeth sydd fel arfer wedi'i eithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a deddfwriaeth arall wedi'i eithrio.
Gwybodaeth mewn ffurf drafft
Does ond disgwyl i fersiynau ‘terfynol’ fod ar gael.
Gwybodaeth yr ystyrir ei fod wedi'i archifo
Nid yw hyn o reidrwydd yn cynnwys archifau adrannol, ond mae'n cyfeirio at wybodaeth sydd ddim bellach yn ‘gyfredol’ fel cofnodion cyfarfodydd sydd dros bum mlynedd oed. Gallai'r rhain fod yn destun i gais Rhyddid Gwybodaeth penodol ond nid oes disgwyl iddynt i fod ar gael yn weithredol.
Gwybodaeth na ellir ei roi ar gael yn rhwydd gan yr awdurdod cyhoeddus
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd angen ei brosesu, gyfosod neu ail-bacedu er mwyn iddo gael ei anfon i aelodau'r cyhoedd. Dim ond ‘dogfennau terfynol’ sydd angen eu cyhoeddi'n weithredol.
Mwy o wybodaeth
Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdano yma neu mewn adrannau eraill o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ewch i'n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth am fanylion ar sut i wneud cais.
Am fwy o wybodaeth am Ryddid Gwybodaeth a Chynlluniau Cyhoeddi, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.