Rhyddid Gwybodaeth (FoI)
- Sut ydw i'n gwneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?
- Rhyddid Gwybodaeth (FoI)
- I bwy mae Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys?
- Rwy'n byw yn yr Alban. Ydy'r Ddeddf yn dal yn gymwys?
- Beth yw'r Hawliau Mynediad?
- A gaf i ofyn am wybodaeth amdanaf i fy hun o dan Ryddid Gwybodaeth?
- Gyda phwy ddylwn i gysylltu i ofyn am wybodaeth?
- Am faint ddylwn i aros am ateb?
- Allwch chi wrthod rhoi'r wybodaeth rwy'n gofyn amdani i mi?
- Beth fydd yn digwydd os na rowch chi'r wybodaeth y mae ei heisiau arnaf i mi?
- Ai dyna ddiwedd y mater?
- Gyda phwy ydw i'n cysylltu i ofyn am adolygiad?
- Beth os ydw i'n dal yn anfodlon?
- RÔl y Comisiynydd Gwybodaeth
- Rhagor o wybodaeth
- Pecyn Sylfaenol Rhyddid Gwybodaeth DWP (364KB)
Trosolwg ar gyfer staff yr Adran Gwaith a Phensiynau o'r egwyddorion y dylent eu hystyried wrth ymdrin  cheisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Cysylltiadau perthnasol:
- Gwybodaeth a ryddhawyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
- Bydd y darganfyddwr gwybodaeth yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth gan DWP sydd ddim ar gael ar y wefan hon
Sut ydw i'n gwneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?
Mae'n rhaid i'ch cais am wybodaeth:
- fod yn ysgrifenedig
- bod ar ffurf barhaol (gan gynnwys e-bost a ffacs)
- rhoi'ch enw i ateb iddo
- rhoi cyfeiriad at ddibenion gohebu (byddai cyfeiriad e-bost yn dderbyniol)
- disgrifio'r wybodaeth rydych yn gwneud cais amdani gymaint ag y gallwch.
I wneud cais am wybodaeth, defnyddiwch ein ffurflen gais (158KB) RTF
Rhyddid Gwybodaeth (FoI)
Cafodd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 30 Tachwedd 2000.
Mae'r Ddeddf yn rhoi hawl i unrhyw berson, o unrhyw genedligrwydd, yn unrhyw le yn y byd, wneud cais am wybodaeth swyddogol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac awdurdodau cyhoeddus eraill. Mae'r hawl hon yn destun i rai eithriadau penodol.
Dechreuodd yr hawliau mynediad hyn ar 1af Ionawr 2005.
Mae ymagwedd DWP tuag at ryddhau gwybodaeth yn un gadarnhaol; mae'n seiliedig ar y rhagdybiaeth y caiff gwybodaeth ei rhyddhau fel rheol, os nad yw wedi'i heithrio'n benodol o dan y Ddeddf a lle na fyddai ei datgelu er lles y cyhoedd. Caiff pob cais a ddaw i DWP ei drin ar ei ragoriaethau a chaiff pob cais ei asesu yn Ôl meini prawf Rhyddid Gwybodaeth.
I bwy mae Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys?
Mae Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys adrannau'r llywodraeth, yr heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion ac ysbytai/meddygfeydd ayb. Yn achos DWP, bydd hyn yn gymwys i'r adran gyfan, gan gynnwys ei Chyrff Cyhoeddus Anadrannol.
Mae gan Ryddid Gwybodaeth gwmpas llawer ehangach na'r Cod Ymarfer ar Fynediad at Wybodaeth y Llywodraeth (Cod Llywodraeth Agored), sydd ar waith ers 1994 ac ond yn berthnasol i gyrff a oedd yn dod o dan gylch gorchwyl y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu (Ombwdsmon). Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y bydd dros 140,000 o gyrff yn dod o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Rwy'n byw yn yr Alban. Ydy'r Ddeddf yn dal yn gymwys?
Ydy. Mae'r Alban wedi cyflwyno'i deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ei hunan i gynnwys pob corff o fewn cylch gorchwyl Senedd yr Alban. Ond, nid yw swyddfeydd DWP yn yr Alban wedi'u cynnwys o dan ddeddfwriaeth yr Alban. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth y DU yn gymwys i bob rhan o DWP yn yr Alban, yn ogystal  Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Beth yw'r Hawliau Mynediad?
Gall unrhyw un (p'un a yw'n unigolyn neu'n gorff corfforaethol fel cwmni preifat) wneud cais am fynediad at unrhyw wybodaeth a gofnodwyd mae'r Adran yn ei dal. Mae hyn yn golygu y gallai pob darn o wybodaeth a ddelir gan DWP gael ei ryddhau ni waeth ar ba ffurf y mae wedi'i gofnodi e.e. ffeiliau papur cofrestredig; dogfennau electronig; llyfrau nodiadau neu gasgliadau amrywiol o bapurau ac ati.
Ni ystyrir y rheswm dros y cais, os rhoddir rheswm, wrth benderfynu a gaiff gwybodaeth benodol ei rhyddhau neu'i hatal. Os na roddir rheswm, ni fyddwn yn gofyn i chi pam mae eisiau'r wybodaeth.
Yn ogystal, mae'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i chi gael gwybod a yw'r wybodaeth y mae ei heisiau arnoch yn bodoli ai peidio, ond mae hyn eto'n amodol ar rai eithriadau penodol.
Gallwch bennu'r ffurf rydych chi am dderbyn y wybodaeth ynddi e.e. copi, crynodeb neu weld y cofnod ei hun. Bydd DWP yn ceisio bodloni'ch cais.
Mae'r Ddeddf yn gwbl Ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ofyn am unrhyw wybodaeth a ddelir gan DWP waeth pa mor hen ydyw. Er enghraifft, gellir gwneud cais am ddogfen a luniwyd ym 1999 o dan ddarpariaethau mynediad at wybodaeth y Ddeddf, er na ddaeth y darpariaethau hynny i rym nes 1 Ionawr 2005.
A gaf i ofyn am wybodaeth amdanaf i fy hun o dan Ryddid Gwybodaeth?
Mae'n bwysig i chi gofio nad yw Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn i ddarparu gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun. Caiff ceisiadau o'r fath eu trin o dan ddarpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 o hyd.
Gyda phwy ddylwn i gysylltu i ofyn am wybodaeth?
Mae DWP yn sefydliad mawr a rhan fawr o'n gwaith beunyddiol yw darparu gwybodaeth i'r amrywiaeth enfawr o bobl sy'n defnyddio'n gwasanaethau neu sydd  diddordeb ynddyn nhw. Mae hyn yn golygu y caiff llawer iawn o wybodaeth ei darparu'n rheolaidd ac yn ddiofyn eisoes.
Yn y lle cyntaf, dylech fynd at y swyddfa leol sydd fel arfer yn delio Â'ch cais neu  chysylltiad arall sydd gennych Â'r Adran. Os na allant hwy ateb y cais, byddant yn ei drosglwyddo i'r rhan briodol o DWP.
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt cyffredinol ar gyfer yr Adran yn: www.dwp.gov.uk/contact/
Am faint ddylwn i aros am ateb?
Dylai ateb gael ei anfon atoch cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os yw'ch cais yn gymhleth, efallai y bydd angen mwy nag 20 diwrnod gwaith arnom, ond os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn y cyfnod 20 diwrnod gwreiddiol a byddwn yn rhoi gwybod i chi'n rheolaidd am gynnydd eich cais.
Allwch chi wrthod rhoi'r wybodaeth rwy'n gofyn amdani i mi?
Mae'r Ddeddf yn cynnwys sawl eithriad i'r hawl i fynediad at wybodaeth.
Mae'n rhaid ystyried y rhan fwyaf o eithriadau mewn dau gam:
- yn gyntaf, a yw'r eithriad yn gymwys i'r holl wybodaeth y gwneir cais amdani, neu i ran ohoni'n unig, ac os ydyw,
- oes budd i'r cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth sy'n fwy nag a fyddai o'i hatal?
Fodd bynnag, mae rhai mathau o wybodaeth yn dod o dan yr hyn a elwir yn eithriad "absoliwt". Yn yr achosion hyn, nid oes angen ystyried a oes budd i'r cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth.
Beth fydd yn digwydd os na rowch chi'r wybodaeth y mae ei heisiau arnaf i mi?
Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn esbonio pam nad yw'r wybodaeth yn cael ei hanfon atoch. Bydd y llythyr hwn yn esbonio'r eithriad y credwn sy'n berthnasol i'r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani. Byddwn hefyd yn esbonio pam mae'r eithriad hwn yn briodol a beth yw eich hawliau apÊl, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Ai dyna ddiwedd y mater?
Na, os nad ydych yn hapus gyda'n penderfyniad gallwch ofyn i ni gael golwg arall ar eich cais a'n penderfyniad. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal gan aelod arall o staff DWP nad oedd wedi cymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniad gwreiddiol. Bydd y person o raddfa uwch na'r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol ar eich cais. Fe edrychir eto ar bob agwedd o'ch cais ac fe'ch hysbysir o benderfyniad newydd yr adolygydd. Efallai bydd y penderfyniad yn cefnogi'r un gwreiddiol, yn ei wyrdroi neu efallai bydd yn darparu mwy o wybodaeth i chi.
Gyda phwy ydw i'n cysylltu i ofyn am adolygiad?
Dylech gysylltu Â'r person a ysgrifennodd atoch gyda'r ymateb i'ch cais. Bydd y person hwnnw'n sicrhau y caiff y papurau sy'n berthnasol i'ch cais eu trosglwyddo i'r person priodol i ailedrych ar eich cais.
Beth os ydw i'n dal yn anfodlon?
Os ydych chi'n dal yn anfodlon ar Ôl i ni ystyried eich cais eto, gallwch ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth ymchwilio i'r modd y cafodd eich cais ei drin. Swyddog annibynnol yw'r Comisiynydd a benodir gan EM y Frenhines ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Senedd. Bydd y Comisiynydd yn gweld yr holl bapurau sy'n ymwneud Â'ch cais a phenderfynu a yw'n penderfyniad yn deg ac yn bodloni gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Gallwch gysylltu Â'r Comisiynydd yn:
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Fax: 01625 524 510
http://www.informationcommissioner.gov.uk
RÔl y Comisiynydd Gwybodaeth
Mae'r cyfrifoldeb o weinyddu gweithrediad y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn disgyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n swyddog cyhoeddus annibynnol yn atebol yn uniongyrchol i'r Senedd. Yn ogystal  chadarnhau Cynlluniau Cyhoeddi a hyrwyddo cydymffurfiaeth gyda'r ddeddfwriaeth, mae gan y Comisiynydd bwerau gorfodaeth. Yn enwedig, ar Ôl ymchwilio i gwynion bydd yn cyflwyno Hysbysiad o Benderfyniad yn gosod allan unrhyw gamau mae angen i awdurdod cyhoeddus ei gymryd i gwblhau eu goblygiadau. Mae'r Comisiynydd hefyd gyda chyfrifoldeb am weinyddu a, lle bo'r angen, gorfodi'r rheolau ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol sydd wedi'i osod allan yn y Ddeddf Diogelu Data 1998. Ymwelwch  gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am fwy o wybodaeth.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech ragor o wybodaeth am y modd y mae DWP yn gweithredu'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gallwch gysylltu  Charles Cushing yn y cyfeiriad isod. Fodd bynnag, sylwch fod Charles yn gweithio mewn uned Bolisi, ac nid oes ganddo fynediad at gofnodion na phapurau achos cwsmeriaid neu gleientiaid unigol yr adran.
Ni all Charles a'i dÎm ddelio  chwestiynau am eich budd-dal neu hawliad.
Charles Cushing
Department for Work and Pensions
Information and Devolution Policy
Adjudication and Constitutional Issues Policy Division
Freedom of Information Unit
2nd Floor, The Adelphi
1 - 11 John Adam Street
London
WC2N 6HT
e-bost: freedom-of-information-request@dwp.gsi.gov.uk
Gellir dod o hyd i fanylion manwl am ddarpariaethau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

