Cwynion ac apeliadau
Dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl os ydych yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth yn anghywir. Os ydych yn parhau i fod yn anhapus ar ôl i chi siarad â ni, byddwn yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud nesaf. Mae gennych ddewisiadau gwahanol yn dibynnu ar beth yw’r broblem.
Mae’r dudalen hon yn sôn wrthych am:
- gwyno am y gwasanaeth rydych wedi’i gael gennym
- wyno am gontractwr
- eich dewisiadau os ydych yn credu bod y penderfyniad ar eich budd-dal neu gynhaliaeth plant yn anghywir
- y Gwasanaeth Tribiwnlys
- cwyno am yr Adran.
Mae Siarter Cwsmeriaid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gosod y safonau y gallwch eu disgwyl gennym a beth yw eich cyfrifoldebau chi.
Cwyno am y gwasanaeth rydych wedi’i gael gennym
Mae gan bob un o'n busnesau ei weithdrefn gwyno ei hun ar gyfer ei gwsmeriaid. Dilynwch y cysylltiadau i ddarllen amdanynt:
- Cwynion Ganolfan Byd Gwaith (GOV.UK)
- Cwynion y Gwasanaeth Pensiwn (GOV.UK)
- Gwneud cwyn i'r Asiantaeth Cynnal Plant (GOV.UK)
- Gwneud cwyn i sefydliad Rheoli Dyled yr Adran
- Cwynion y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr (GOV.UK)
Mae cwynion ac apeliadau yn wahanol
Ni allwn drin cwyn fel apêl yn erbyn penderfyniad ar fudd-dal. Darllenwch am apeliadau yn yr adran isod.
Cwyno am y gwasanaeth a gawsoch gan gontractwr
Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a gawsoch gan gontractwr i'r Adran Gwaith a Phensiynau, er enghraifft darparwr Rhaglen Waith, dylech gwyno iddynt hwy yn gyntaf a rhoi cyfle iddynt unioni'r mater. Os ydych yn anfodlon gyda'u hymateb mae'n rhaid iddynt ddweud wrthych sut y gallwch fynd â'ch cwyn ymhellach.
Os ydych yn dal yn anfodlon gydag ymateb terfynol y contractwr i'ch cwyn, gallwch ofyn i'r Archwilydd Achosion Annibynnol (ICE) i ymchwilio i'ch cwyn
Os ydych yn credu bod ein penderfyniad ar eich budd-dal neu gynhaliaeth plant yn anghywir
Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn i ni ei esbonio i chi. Os ydych yn dal i feddwl ei fod yn anghywir ar ôl i ni ei esbonio i chi, fe wnawn ei ystyried eto.
Ar gyfer rhai penderfyniadau, efallai y bydd modd i chi apelio hefyd i dribiwnlys annibynnol a allai newid y penderfyniad os byddant yn cytuno ei fod yn anghywir.
Mae terfynau amser o ran gofyn i ni ystyried penderfyniadau eto ac o ran apelio. Rydym yn sôn am y terfynau amser hyn ac am apelio yn ein llyfryn GL24W Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir.
Y Gwasanaeth Tribiwnlys
Mae'r Gwasanaeth Tribiwnlys yn sefydliad annibynnol sy'n trefnu ac yn gwrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau am:
- ddiogelwch cymdeithasol
- cynnal plant
- niwed trwy frechiad
- credydau treth
- adfer iawndal.
Cwyno am yr Adran
Fel Adran rydym am roi gwasanaeth da i bawb sy’n delio â ni.
Mae gan bob un o’n busnesau ei weithdrefn cwyno ei hun. I gwyno am un o’n busnesau ewch i Cwyno am y gwasanaeth rydych wedi’i gael gennym.
Os ydych yn anfodlon ar unrhyw beth rydym ni, fel Adran, nid ein busnesau, wedi ei wneud neu heb wneud, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig - drwy’r post, mewn e-bost neu ffacs - neu drwy ffonio rheolwr y rhan berthnasol o’r Adran.
Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn yn llawn ac yn wrthrychol. Ein nod yw cysylltu â chi o fewn pythefnos i ddweud wrthych p’un a ydym yn cytuno ac, os felly, yr hyn rydym yn ei wneud i unioni’r sefyllfa. Os na fyddwn yn cytuno â’ch cwyn byddwn yn rhoi ein rhesymau i chi.
Os ydych yn anfodlon o hyd, gallwch ofyn i ni ailystyried y mater eilwaith ac am y tro olaf. Bydd aelod o’n staff sy’n uwch na’r person a adolygodd y gwyn yn wreiddiol yn gwneud hyn.