Cysylltu  ni
Rydym am eich helpu chi i gysylltu â’r rhan briodol o’r Adran, fel y gallem ymdrin â’r ymholiad neu gŵyn yn gyflym.
Chwilio am waith, budd-daliadau a phensiynau – pwy i gysylltu â
Pwy i gysylltu ag er mwyn:
- gwneud cais
- cael gwybodaeth am gais
- dweud am newid mewn amgylchiadau.
- Canolfan Byd Gwaith – pwy i gysylltu â (Directgov)
- Y Gwasanaeth Pensiwn – pwy i gysylltu â (Directgov)
- Budd-daliadau anabledd a gofalwyr – pwy i gysylltu â (Directgov)
- Asiantaeth Cynnal Plant
- Budd-daliadau ac ymholiadau o dramor (Directgov)
Cwynion ac apeliadau
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau o safon. Rydym eisiau clywed eich cwyn os nad ydych yn fodlon. Ar gyfer rhai penderfyniadau gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol.
Ceisiadau Diogelu Data
Mae’r Ddeddf Diogelu Data 1998 yn rhoi’r hawl i chi wybod pa wybodaeth sy’n cael ei gadw amdanoch.
Ceisiadau am Ryddid Gwybodaeth
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i bawb gael mynediad i wybodaeth sy’n cael ei ddal gan awdurdodau cyhoeddus.
Cysylltiadau ystadegau’r Adran Gwaith a Phensiynau
Pwy i gysylltu ag am ystadegau'r Adran Gwaith a Phensiynau ar grwpiau cleient, budd-daliadau, rhaglenni cyflogaeth, amcangyfrifon o aelwydydd sy'n byw mewn tlodi a meysydd eraill mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol amdanynt.
Cyfreithwyr a chynrychiolwyr cyfreithiol
Os ydych yn gyfreithiwr neu’n gynrychiolydd cyfreithiol sy’n gweithredu ar ran unigolyn, ysgrifennwch i’r swyddfa sy’n delio â hwy. Mae’n rhaid i chi gynnwys llythyr awdurdod gan yr unigolyn os ydych am i ni ddarparu gwybodaeth amdanynt.
Dylai cyfreithwyr sy’n cyflwyno dogfennau cyfreithiol i’r Ysgrifennydd Gwladol eu hanfon i’r cyfeiriad canlynol. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau eraill i’r cyfeiriad hwn.
DWP Litigation Division
5th Floor
The Adelphi
1-11 John Adam Street
London
WC2N 6HT
Cysylltu â Gweinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae Gweinidogion y Llywodraeth yn derbyn cryn dipyn o ohebiaeth a byddant dim ond yn ymateb yn bersonol i achosion eithriadol. Ni all gweinidogion ymyrryd mewn achosion unigol - er enghraifft, o ran hawl i gael budd-dal.
Adborth am y wefan
Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw adborth a fydd yn ein helpu i wella’r wefan hon - er enghraifft, ei gynllun a’i hwylustod.
