Cysylltu â Gweinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau
Gallwch leisio eich barn i Weinidogion eich hun neu gofynnwch i’ch Aelod Seneddol i godi mater ar eich rhan. Efallai y bydd eich Aelod Seneddol yn rhoi copi o’r ateb a gânt i chi.
Mae staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anelu at ateb 90% o lythyron ac e-byst a gyfeiriwyd at Weinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 20 diwrnod gwaith. Mae gweinidogion yn cael adroddiadau rheolaidd am y materion a godwyd.
Cofiwch, mae Gweinidogion y Llywodraeth yn cael cryn dipyn o ohebiaeth a byddant dim ond yn ymateb yn bersonol i achosion eithriadol. Ni all gweinidogion ymyrryd mewn achosion unigol – er enghraifft, o ran hawl i gael budd-dal.
Yr hyn i gynnwys os byddwch yn ysgrifennu
A fyddech cystal â chynnwys eich enw a’ch cyfeiriad ar unrhyw ohebiaeth y byddwch yn anfon atom. Gallai fod yn ddefnyddiol cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol mewn unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig.
Gallwch ysgrifennu at Weinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau yn:
Department for Work and Pensions
Caxton House
Tothill Street
London
SW1H 9DA
Gallwch anfon e-bost – ond ysgrifennwch at Caxton House yn lle os ydych am gynnwys gwybodaeth bersonol (yn ychwanegol i’ch enw a’ch cyfeiriad) fel eich dyddiad geni neu rif Yswiriant Gwladol.
Darllenwch ein polisi e-bost cyn anfon e-bost atom.
Peidiwch ag anfon gwybodaeth neu gwestiynau personol am eich budd-dal neu hawl i’r cyfeiriad hwn.
Chwilio am waith, budd-daliadau a phensiynau – pwy i gysylltu â
- Canolfan Byd Gwaith – pwy i gysylltu â (Directgov)
- Y Gwasanaeth Pensiwn – pwy i gysylltu â (Directgov)
- Budd-daliadau anabledd a gofalwyr – pwy i gysylltu â (Directgov)
- Asiantaeth Cynnal Plant (Gwefan Yr Asiantaeth Cynnal Plant)
- Budd-daliadau ac ymholiadau o dramor (Directgov)
