Polisi hygyrchedd
Rydym am sicrhau bod yr ystod ehangaf posibl o bobl yn credu bod y wefan hon yn hawdd ei defnyddio, neu'n "hygyrch".
Mae ein gwefan wedi'i chreu i gyrraedd safon hygyrchedd y llywodraeth. Gelwir y safon hon yn Lefel A-Ddwbl o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We W3C (fersiwn 1.0).
Gwella ein hygyrchedd
Mae’r mwyafrif o’r wefan hon yn cwrdd â Lefel A -Ddwbl. Fodd bynnag, nid yw rhai rhannau o’r safle a rhai’r o’r gwasanaethau y ceir mynediad iddynt drwy’r safle wedi cyrraedd y safon hon eto. Rydym yn gweithio i wella’r rhain:
Rhannau o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Gwasanaethau ar lein yr Adran Gwaith a Phensiynau
- E-wasanaeth Lwfans Gofalwr yn cwrdd â Lefel A-Sengl.
- E-wasanaeth yr Uned Adennill Iawndal yn cwrdd â Lefel A-Sengl.
- Ffurflen nodi lleidr budd-daliadau Ar-lein yn cwrdd â Lefel A-Sengl.
- Gwasanaethau a budd-daliadau ar-lein nid yw'r gwasanaeth yn cydymffurfio â safonau W3C ac mae’n cael ei ddisodli’n raddol gan wasanaethau mwy hygyrch. Symudodd Lwfans Ceisio Gwaith i wasanaeth newydd ar Directgov ym mis Awst 2010.
Dogfennau mewn Ffurf Dogfen Gludadwy (PDF)
Mae llawer o ddogfennau ar y wefan hon yn cael eu cyhoeddi mewn ffurf dogfen gludadwy (PDF). Byddwn yn dweud wrth ddefnyddwyr sut i gael help gyda dogfennau PDF.
Rydym yn gweithio i wella hygyrchedd y PDFs rydym yn eu cyhoeddi.
Cynnal ein hygyrchedd
Rydym yn cynnal safon hygyrchedd y wefan hon drwy:
- Ei brofi’n rheolaidd yn erbyn canllawiau W3C.
- Profi gyda defnyddwyr, yn cynnwys pobl anabl.
- Arolygon gyda defnyddwyr
- Cadw ein sgiliau a’n gwybodaeth o adeiladu gwefannau hygyrch yn gyfredol.
Rydym yn defnyddio canlyniadau’r profion hyn a beth mae ymwelwyr yn dweud wrthym am wneud gwelliannau i’r safle.
Manylion cyswllt
Rydym yn croesawu adborth ar hygyrchedd a defnyddioldeb ein safle.