Datganiad hygyrchedd
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau am sicrhau bod yr ystod ehangaf posibl o bobl yn credu bod y wefan hon yn hawdd ei defnyddio, neu'n “hygyrch”. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd ein gwefan.
Help gyda hygyrchedd
Mae nifer o bethau y gallwch chi ei wneud i wneud y wefan hon yn haws ei defnyddio.
Newid maint y testun ar y wefan hon
I newid maint y testun defnyddiwch yr opsiynau Maint testun ar frig y mwyafrif o dudalennau.
- I gael testun mwy, dewiswch y llythyren A+ ar y dde.
- I gael testun llai, dewiswch y llythyren A- ar y chwith.
- I ddychwelyd maint y testun i’w faint gwreiddiol, dewiswch y llythyren A sydd yn y canol.
Neu fel arall:
- dewiswch Text Size o'r ddewislen View. (Mewn rhai porwyr mae'n bosibl y gelwir Text Size yn Text Zoom neu Zoom)
- dewiswch y maint sydd ei hangen arnoch o'r ddewislen Text Size
Cyngor hygyrchedd i ddefnyddwyr Apple Mac
Mae system weithredu Mac yn cynnwys llawer o opsiynau hygyrchedd, gan gynnwys newid maint testun, testun-i-lafar a dewisiadau bysellfwrdd yn lle swyddogaethau llygoden.
- Ewch i Adran hygyrchedd gwefan Apple.
Help gyda dogfennau PDF
Gallwch lawrlwytho dogfennau mewn Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) drwy ddefnyddio Adobe Reader – sydd ar gael am ddim.
Weithiau nodir dogfennau PDF gyda'r eicon hwn.![]()
Technoleg gynorthwyol a dogfennau PDF
Mae Adobe Reader yn eich galluogi i dynnu testun allan o ddogfen PDF Adobe a’i arbed fel ffeil testun. Mae’r cyfleuster hwn yn ddefnyddiol iawn pan rydych eisiau darllen y ddogfen ar ‘note-taker’ neu foglynnu’r ffeil gydag argraffydd Braille.
Gwybodaeth ar wefan Adobe i ddefnyddwyr sydd ag anableddau (dogfen ‘Mynediad i ddogfennau PDF gyda thechnoleg gynorthwyol)
Newid golwg y wefan hon
- Mae newid golwg y wefan hon yn egluro sut i newid lliw y testun neu'r cefndir, newid y ffont neu ddileu delweddau.
Delweddau
Mae gan y rhan fwyaf o'r delweddau ar y wefan hon destun arall sy'n disgrifio eu cynnwys neu eu swyddogaeth. Nid yw delweddau a ddefnyddir mewn graffeg addurnol neu at ddibenion cynllun yn cynnwys testun arall.
Rhagor o help
Am ragor o gymorth o ran newid eich porwr, eich system weithredu, neu osodiadau eich cyfrifiadur i weld gwefannau mewn ffordd fwy hygyrch, ewch i My Web My Wayy BBC.
Manylion cyswllt
Rydym yn croesawu adborth ar hygyrchedd a defnyddioldeb ein safle.