Beth rydym yn ei wneud
Mae’r adran hon yn rhoi manylion am yr hyn mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei wneud, sut mae’n cael ei drefnu a Chyrff Cyhoeddus Anadrannol.
Mae’r Adran yn cefnogi ei Gweinidogion i ddatblygu a gweithredu polisïau a strategaethau wedi’u hanelu at:
- bobl sy'n cael budd-daliadau
- pobl sydd angen help i gael gwaith
- pobl anabl
- pobl hŷn
- pobl sy'n cael Pensiwn y Wladwriaeth.
- Manylion Gweinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Manylion Uwch Reolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae Cynllun Busnes yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi blaenoriaethau a chyflawniadau allweddol yr Adran.
Sut rydym wedi ein trefnu
Mae'r Adran wedi ei threfnu yn dri maes:
- cyflenwi gwasanaeth cwsmeriaid
- polisi
- swyddogaethau corfforaethol
Cyflenwi gwasanaeth cwsmeriaid
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithredu drwy ddau brif fusnes cyflenwi cwsmeriaid, sef y Ganolfan Byd Gwaith a'r Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr.
Cyrff Cyhoeddus Anadrannol
Mae gan Gyrff Cyhoeddus Anadrannol rôl wrth gyflenwi a gweithredu busnes y Llywodraeth ond nid ydynt yn adrannau o'r Llywodraeth nac yn rhan o un. Maent yn gweithredu'n annibynnol a hyd braich o Weinidogion ond maent yn dal yn atebol i'r cyhoedd am y gwasanaethau maent yn eu darparu.