Gwerthoedd
Mae’r adran hon yn rhoi manylion am werthoedd yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gwerthoedd
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn anelu at ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r bobl sy’n gwsmeriaid iddi.
Mae Gwerthoedd yr Adran Gwaith a Phensiynau, a rennir gan bob un o’i busnesau, ei grwpiau cleientiaid a’i thimau corfforaethol, yn amlinellu sut mae’n ceisio gweithredu o ran materion y tu mewn a’r tu allan i’r Adran. Y pedwar gwerth craidd yw:
- Cyflawni’r gorau – drwy ddefnyddio ein holl adnoddau’n effeithlon er mwyn sicrhau y darperir safonau o wasanaeth uchel a chyson
- Parchu pobl – drwy drin ein cwsmeriaid a thrin ein gilydd â pharch, croesawu amrywiaeth a gwerthfawrogi syniadau pobl eraill ac ymateb yn deg i anghenion unigol
- Gwneud gwahaniaeth – drwy gynorthwyo, herio ac ysbrydoli cwsmeriaid i wella eu bywydau a helpu ei gilydd i wneud gwahaniaeth
- Edrych allan – drwy weithio gydag eraill a dysgu sut i wella ar yr hyn a wnawn.
Yn ychwanegol, mae gweision sifil yn gweithio o fewn ffiniau Cod y Gwasanaeth Sifil. Mae’r Cod yn gosod allan y pedwar gwerthoedd craidd sy’n sylfaen i waith pob gwas sifil.
- Uniondeb – rhoi goblygiadau gwasanaeth cyhoeddus uwchben diddordebau personol
- Gonestrwydd – bod yn onest ac yn agored
- Gwrthrychedd – selio cyngor a phenderfyniadau ar ddadansoddiad trylwyr o’r dystiolaeth
- Didueddrwydd – gweithredu’n uniongyrchol yn unol â sail yr achos a gwasanaethu llywodraethau o wahanol bartion gwleidyddol cyn gystal â’u gilydd
- Cod y Gwasanaeth Sifil (Gwefan y Gwasanaeth Sifil)
Rhaglen Newid
Nod Rhaglen Newid yr Adran yw gwella ansawdd gwasanaeth cwsmeriaid. Mae iddi bum prif flaenoriaeth:
- Trin cwsmeriaid yn dda - drwy wrando'n ofalus, cynnig cyngor da a thrin pobl â pharch
- Cyflenwi'r canlyniad cywir - drwy sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y cymorth, y cyngor a'r help ariannol cywir
- Ymateb mewn pryd - drwy ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn gyflymach a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gynnydd
- Gwella mynediad i wasanaethau - drwy wneud ein gwybodaeth yn gliriach, ein systemau yn symlach a'r ffordd y gellir cysylltu â ni yn haws
- Gwneud yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lle gwych i weithio ynddo - drwy gynnwys staff mewn penderfyniadau, a sicrhau bod pawb yn cael y cymorth, y sgiliau a'r offer sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu swydd yn dda.